13/01/2025 - 20:00
Cynhelir cyfarfod nesa'r grŵp hwn dros Zoom am 8.00, nos Fercher, 13 Ionawr 2025.
Hwn yw'r grŵp sy'n ymwneud â materion darlledu a chynnwys ar-lein felly os oes diddordeb gyda chi yn y meysydd hyn, beth am ymuno â'r grŵp. Byddai'n braf iawn croesawu aelodau newydd i'r grŵp.
Os nad ydych yn siwr ai dyma'r grŵp i chi, mae croeso i chi fynychu'r cyfarfod a gweld sut mae pethau'n mynd cyn ymrwymo i unrhyw beth pendant.
Ymysg pethau eraill byddwn yn trafod unrhyw ddatblygiadau o ran Corff Darlledu newydd, yn arbennig o ddeall bod cyllid ar gyfer "darlledu a'r cyfryngau" o fewn cyllideb ddrafft y Llywodraeth wedi disgyn o £1.1m i ddim.
Os ydych yn awyddus i fynychu felly, cysylltwch ac fe anfonwn ni ddolen atoch.