Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

19/06/2024 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf rhanbarth Ceredigion am 7 o'r gloch nos Fercher, 19 Mehefin yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. Bydd modd ymuno arlein hefyd (cysylltwch am ddolen).

Dewch i gwrdd ag aelodau eraill y rhanbarth ac i drafod materion sydd yn bwysig ac yn berthnasol i'r ardal. Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn trafod ymgyrch Swyddfa Post Aberystwyth ac ysgolion gwledig y sir. Mae Cyngor Ceredigion wedi rhoi gwybod i lywodraethwyr bod adolygiad o ddyfodol nifer o ysgolion gwledig y sir yng nghyd-destun arbedion i’r gyllideb (mwy yma).