Bil Cynllunio - cyfle i greu cymunedau cynaliadwy
Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhagair
Mae bellach yn dwy flynedd ar hugain ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr
Deddf Eiddo am y tro cyntaf. Oherwydd y gwahanol ddeddfwriaeth, rheoliadau a chynghorion statudol amrywiol sy’n dylanwadu ar feysydd tai a chynllunio, mae cryn ddryswch a diffyg eglurder yn llesteirio ymdrechion i weithredu mewn modd cynaliadwy yn y meysydd hyn. Y gwir yw nad oes gan Lywodraeth Cymru na’r awdurdodau cynllunio lleol na’r awdurdodau tai ac asiantaethau tai yr un strategaeth gynhwysfawr a chydlynol i’w harwain wrth ymdrin â sefyllfa’r iaith Gymraeg yng nghyd-destun y meysydd tai, cynllunio a datblygu cymunedol.
Fodd bynnag, un o brif amcanion Llywodraeth Cymru a phob awdurdod cynllunio lleol yw
“gweithredu mewn modd cynaliadwy”. O safbwynt parhad a ffyniant yr iaith Gymraeg,
rhesymol fyddai disgwyl bod hyn yn golygu gweithredu mewn modd sy’n cynnal, gwarchod a
hybu “bio-amrywiaeth” ddiwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol cymunedau Cymru. Un o
nodweddion mwyaf arbennig y cymunedau hynny yw eu hunaniaeth Gymraeg a Chymreig.
Ac eto, nid oes ar hyn o bryd fawr ddim rheolaeth dros lawer o’r tueddiadau cyfoes sy’n
dylanwadu’n ddirfawr ar wead cymdeithasol cymunedau Cymru, dosbarthiad siaradwyr
Cymraeg a defnydd yr iaith. Ymhlith y tueddiadau di-reolaeth hyn, nodwn:
- batrymau allfudo a mewnfudo
- patrymau gweithio a phreswylio
- adeiladu tai newydd
- amlder ail gartrefi a chartrefi ymddeol
- y duedd i brynu eiddo i’w drin fel buddsoddiad ariannol neu asedion.
Oherwydd sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg mae’r tueddiadau hyn yn peryglu ddemograffi a
defnydd yr iaith mewn llawer rhan o’r Gymru sydd ohoni.
Am lawer o resymau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol, nid yw’r egwyddor o ddylanwadu ar y tueddiadau hyn er mwyn gwarchod cymunedau rhag eu heffeithiau niweidiol yn egwyddor sydd wedi gwreiddio’n ddwfn iawn yng ngweinyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddiaeth gwledydd Prydain. Oherwydd hyn, nid yw’r egwyddor o “ymyrraeth gadarnhaol” yn un sydd wrth wraidd y system “cynllunio gwlad a thref” chwaith, er y caiff ei rhoi ar waith yn helaeth mewn amryw o feysydd eraill — megis datblygu’r economi, y celfyddydau, cadwraeth, gwarchod yr amgylchedd a gwarchod bio-amrywiaeth. O ganlyniad, mae’n bur amlwg i ni fod y system “cynllunio gwlad a thref” wedi esblygu mewn modd sy’n golygu na all ymdopi’n rhwydd ag ystyriaethau cymdeithasegol, diwylliannol ac ieithyddol. Gwelir hyn wrth ystyried sefyllfa’r Gymraeg o fewn y maes. Aeth bron i dair mlynedd ar hugain heibio ers i’r Swyddfa Gymreig gyhoeddi Cylchlythyr 53/88 a roddodd ganiatâd i awdurdodau cynllunio ystyried y Gymraeg yn ffactor i’w hystyried wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau gwlad a thref. Ers hynny, mae Polisi Cynllunio Cymru wedi cydnabod effaith y gyfundrefn gynllunio ar yr iaith Gymraeg. Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned: Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) ac ymgynghorwyd ar TAN 20 yn 2011. Yn adran 4.12 o Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 4, Chwefror 2011), ceir sawl datganiad arwyddocaol am y berthynas rhwng y system gynllunio a’r iaith Gymraeg.
4.12.1 … Dylai’r system cynllunio defnydd tir ystyried anghenion a buddiannau’r Gymraeg ac wrth wneud hynny gall gyfrannu at ei lles.
4.12.2 … Dylai pob awdurdod cynllunio lleol ystyried a oes ganddynt gymunedau lle y mae’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’r gwead cymdeithasol a, lle y mae hynny’n wir, mae’n briodol ystyried hynny wrth lunio polisïau defnydd tir. […]
4.12.3 … Dylai fod yn nod gan awdurdodau cynllunio lleol ddarparu ar gyfer tai sydd wedi eu
dosbarthu’n eang ac sy’n cael eu datblygu’n raddol, gan ystyried gallu’r gwahanol ardaloedd
a’r cymunedau i gymathu’r datblygiad heb erydu safle’r Gymraeg.[…]
Er mor gadarnhaol yw’r datganiadau hyn, gellid dadlau eu bod yn ychwanegu at y dryswch
oherwydd ni ddarparwyd canllawiau eglur a chwbl digamsyniol i swyddogion cynllunio i’w
cynorthwyo i’w dehongli wrth iddynt fynd ati i lunio polisïau unigol a chloriannu ceisiadau
cynllunio unigol. Er enghraifft, nid oes arweiniad eglur a phendant ynghylch faint o bwys y
dylai’r cynllunwyr ei roi ar ystyriaethau ieithyddol, o’u cymharu ag ystyriaethau economaidd
er enghraifft, neu’r angen am gartrefi, wrth ddyfarnu ynghylch datblygiadau unigol. O ganlyniad, mae’r cynghorion a roddwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru yn agored i’w dehongli yn ôl mympwy, tueddfryd a lefel dealltwriaeth y cynllunwyr gwlad a thref.
Daeth yn fwyfwy amlwg i bawb sy’n ymboeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg nad yw’r system cynllunio gwlad a thref ar ei ffurf bresennol yn gyfrwng effeithiol iawn ar gyfer ystyried materion ac agweddau sydd y tu hwnt i “reoli defnydd tir”. Gwelir diffyg treiddgarwch yn y modd mae awdurdodau cynllunio lleol yn ymdrin â’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u gwaith bron. Credwn fod hyn yn ddiffyg sy’n adlewyrchu anallu’r gyfundrefn cynllunio gwlad a thref i impio ystyriaethau cymdeithasegol, diwylliannol ac ieithyddol ar gyfundrefn a sefydlwyd yn wreiddiol i “reoli defnydd tir”.
O ganlyniad, gwelwyd yng Nghymru dros y degawd diwethaf na fu’r cyfarwyddyd a’r arweiniad a gafwyd gan adran gynllunio Llywodraeth Cymru, yn fodd i gynnig statws cynllunio priodol a chyson i’r iaith Gymraeg. Cafwyd achosion ym mhob rhan o Gymru o ddyfarniadau cynllunio yn arwain at wanhau neu niweidio gwead cymdeithasol a diwylliannol cymunedau a safle’r Gymraeg yn y cymunedau hynny.
O ran bwrw gorolwg dros y gwahanol strategaethau sydd ar waith ym meysydd tai a
chynllunio ar lefel bolisi uwch, mae Iaith Pawb — Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer
Cymru Ddwyieithog, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn Chwefror 2003, yn crybwyll
sawl cynllun a weithredir i hyrwyddo’r nod o warchod, sefydlogi a hybu’r Gymraeg.
Ym maes cynllunio nodir Cynllun Gofodol Cymru, “mecanwaith ar gyfer ystyried rhyngweithio
[rhwng polisïau cynllunio] ac effaith amryw o bolisïau Llywodraeth y Cynulliad”. Sonnir hefyd
am y prosiect i ddarparu dull a modd i gynnal Astudiaeth Effaith Ieithyddol, prosiect a
gomisiynwyd gan 13 o awdurdodau cyhoeddus, dau barc cenedlaethol a Bwrdd yr Iaith
Gymraeg gyda’r nod o “lunio offer i helpu i weithredu polisi cynllunio cenedlaethol a chyngor
sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg.”
Wrth drafod maes tai, mae Iaith Pawb yn cyfeirio at Y Cynllun Prynu Cartref (“Homebuy”)
sy’n fodd i gynnig benthyciad ecwiti (o hyd at 50%) i ddarpar brynwyr tai dan y cynllun
perchnogaeth tai cost isel. Er bod hyn yn ddull gweithredu a gymeradwyir gan amryw o gyrff
ac unigolion, mae maint y gyllideb a neilltuir ar ei gyfer yn golygu mai ymylol iawn iawn fu ac yw ei effaith mewn gwirionedd.
Sonnir hefyd am y Grant Tai Cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru “i helpu i ddarparu tai y gellir eu fforddio” yn ôl blaenoriaethau a bennir gan awdurdodau lleol. Eto, pur ymylol fu dylanwad y Grant ar yr argyfwng cartrefu sy’n wynebu cymaint o’n cymunedau. Drwy Gymru cafodd cyfanswm grant tai cymdeithasol o £7.4 miliwn ei roi gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo tua 170 o deuluoedd trwy'r cynllun 'Cymorth Prynu' yn 2010 - 2011. O rannu’r cyfanswm hwnnw rhwng holl awdurdodau lleol Cymru, gwelir mor sobor o annigonol fu’r dull gweithredu hwn yn ystod cyfnod pan gododd prisiau tai yn ddirfawr iawn, gan eithrio miloedd ar filoedd o drigolion Cymru rhag cael mynediad i’r farchnad dai leol.
Trwy osod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i weinyddu cynlluniau a phrosiectau yn y meysydd
hyn, diau y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gallu dibynnu ar wybodaeth leol ac arbenigedd lleol. Ond y gwir amdani yw nad oes gan adrannau tai yr awdurdodau lleol — rhagor na’r awdurdodau cynllunio — yr arbenigedd hwnnw na’r wybodaeth leol angenrheidiol i’w harwain. Yn fwy penodol, er bod gan yr awdurdodau lleol swyddogion sy’n gyfrifol am gynllunio cyfraniad eu cyngor at “ddiwallu anghenion cymdeithasol” am dai, nid oes arbenigedd o fewn adrannau tai y cynghorau ar ddadansoddi effeithiau cymdeithasegol, diwylliannol ac ieithyddol eu strategaethau.
Weithiau, bydd cynghorau yn gweithredu mewn modd all gyfrannu at ddatrys rhai mathau o broblemau cymdeithasol megis digartrefedd neu amddifadedd, ond sy’n creu problemau sylweddol newydd megis newid neu gwanhau y gwead cymdeithasol drwy greu carfannau newydd o fewn cymunedau; newid arferion, rhwydweithiau a thraddodiadau cynhaliol y boblogaeth frodorol; newid cydbwysedd iaith a diwylliant mewn ysgolion pentrefi, gweithgareddau cymunedol, digwyddiadau lleol ac yn y blaen. Problemau difrifol yw’r rhain sy’n effeithio’n ddirfawr ar ansawdd bywyd siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg fel ei gilydd, ond ni chânt eu cofnodi na’u trin na’u cydnabod yn helaeth iawn o fewn strwythurau llywodraethol a gweinyddol llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru na Llywodraeth San Steffan. Ni chânt eu cydnabod oherwydd maent yn codi cymaint o gwestiynau sensitif all gael eu camddefnyddio at ddibenion gwleidyddol — cwestiynau ynghylch hunaniaeth; hawliau rhyddid unigolion i fudo i wahanol rannau o wledydd Prydain; a hawliau cymunedau brodorol, Cymraeg a/neu Gymreig, i fodoli, goroesi a ffynnu.
Ond y diffyg mwyaf yn yr holl gynlluniau a nodir uchod yw nad oes yr un ohonynt yn cynnig
unrhyw fesur o reolaeth dros y farchnad rydd agored mewn tai ac eiddo, effeithiau difäol y
farchnad honno ar gymunedau Cymraeg a Chymreig, a’r modd mae hyn yn ei dro yn effeithio
ar sefyllfa ddemograffig y Gymraeg a’r hunaniaeth Gymreig. Mae’r dogfennau a nodir uchod yn trafod pob math o syniadau a phrosiectau sy’n ceisio lliniaru ar effaith y farchnad mewn modd sy’n ddigon didwyll o ran cymhelliad, ond sydd, yn y pen draw, yn ymylol iawn mewn gwirionedd yn wyneb maint a chymhlethdod y broblem. Er enghraifft, cyfeirir yn Iaith Pawb, ac yn rhai o bolisïau Cynllun Datblygu Unedol (Drafft) Cyngor Sir Gwynedd, at y syniad o ddarparu “tai fforddiadwy” a godir ac a gedwir yn unswydd i’w gwerthu i bobl leol. Yn ôl Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Gwynedd, gellid codi’r rhain ar dir na chaniateid adeiladu arno fel arall, megis safleoedd y tu allan i’r ffin bentrefol arferol. Byddai’r pobl leol yn prynu’r tai am brisiau llawer is na phrisiau tai cyffelyb ar y farchnad leol agored. Petai’r tai yn cael eu gwerthu maes o law, byddai lefel eu prisiau gwerthu yn cael ei chadw ar y lefel is am eu bod yn destun cytundeb cyfreithiol i’r perwyl hwnnw. Mewn gwirionedd, ymgais yw hwn i greu marchnad artiffisial fechan a fyddai’n
bodoli’n unswydd ar gyfer pobl leol yn barhaus, ochr yn ochr â’r farchnad “go iawn”. Er bod
hyn yn ymgais dychmygus ac adeiladol i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i lywodraeth leol ar
hyn o bryd, mae’n golygu derbyn yr egwyddor bod pobl leol yn cael eu cau allan o’r farchnad
eiddo leol “go iawn”.
Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn bryd ystyried y sefyllfa ym maes tai ac eiddo fel
argyfwng sy’n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru a’i thrin, felly, fel argyfwng cenedlaethol
sy’n galw am ateb cynhwysfawr ac integredig. Dengys ein hymchwil fod y sefyllfa mewn nifer
fawr iawn o gymunedau Cymru yn parhau i waethygu ac y caiff pobl leol yn eu miloedd eu rhwystro o hyd rhag cael mynediad i’r farchnad eiddo leol. Mae cydnabod bod hyn yn argyfwng ar y Gymraeg yn gam cyntaf pwysig iawn yn y broses o gymell gwleidyddion a gwneuthurwyr polisïau i chwilio am atebion priodol. Ein rhagdybiaeth oedd mai grymoedd economaidd allanol oedd yn arwain at y chwyddiant ym mhrisiau tai a ni wnaethom gwerthfawrogi y mantais i'r banciau o chwyddiant prisiau i greu ffug asedion er mwyn benthyg yn eu herbyn. Yn dilyn methiant a phroblemau'r banciau mae prisiau wedi gostwng ond mae'r broblem yn awr yn hollol groes sef amharodrwydd y banciau i fenthyg. Felly er bod prisiau wedi sadio y broblem yn awr yw hyd yn oed lle gellir fforddio morgais mae'r benthycwyr yn disgwyl blaendal uchel megis 20%.
Ar hyn o bryd, o ystyried sefyllfa’r awdurdodau cynllunio ac adrannau tai yr awdurdodau lleol
ochr yn ochr â pholisïau Llywodraeth Cymru, gwelwn nad oes o bell ffordd ofalaeth
ddigonol dros gynllunio cymdeithasol-ieithyddol yng Nghymru. Wedi dweud cymaint â hynny, mae pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol nawr yn cynnig cyfle neilltuol i weithredu mewn modd rhesymegol, cynlluniedig ac integredig i ymateb i’r argyfwng ym maes tai a chynllunio yng Nghymru.
Credwn mai’r hyn sydd ei angen yw polisïau a chanllawiau pendant ac eglur yn y maes yn
hytrach na’r sefyllfa anhrefnus bresennol. Rhai o nodweddion anffodus eraill y sefyllfa sydd
ohoni yw:
- Cynlluniau Datblygu Unedol sy’n amrywio’n fawr o ran eu hymdriniaeth â’r Gymraeg, sy’n anghyson â’i gilydd o ran faint o bwys a roddant ar ystyriaethau ieithyddol, ond sydd, yn ddieithriad, yn arwynebol eu hymdriniaeth â’r Gymraeg. Mae’r sefyllfaoedd diweddar efo cynnwys cynlluniau unedol megis y bwriad i or-ddatblygu ym Modelwyddan a Chaerfyrddin a’r tai ar gyfer Wylfa B yn dangos yr angen i ddiwygio'r canllawiau/gofynion i ymateb i’r sefyllfaoedd lleol a'r rhagdybiaeth twf afrealistig nad yw'n gwneud dim i ddiwallu'r angen lleol am gartrefi.
- Dadleuon cyfeiliornus am hil ac ethnigrwydd yn cael eu defnyddio at ddibenion pleidiol gan wleidyddion di-egwyddor i dynnu sylw oddi wrth broblemau sy’n effeithio’n wirioneddol niweidiol ar ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.
- Oherwydd y sensitifrwydd uchod ynglŷn â’r Gymraeg, mae amharodrwydd ymhlith gwleidyddion i fynd i’r afael â’r angen i reoli’r farchnad eiddo leol er budd pobl leol, er bod amryw o ardaloedd eraill yng Ngwledydd Prydain ac y tu hwnt yn gweithredu polisïau blaengar a theg i’r perwyl hwnnw.
- Gweithredu trefn glogyrnaidd ac anghyson o gynnal ymchwiliadau cyhoeddus lleol, cyhoeddi eu dyfarniadau a gwneud apeliadau. Gweithredir trefn o’r fath heb i’r Arolygwyr sy’n ei llywio ac sy’n paratoi’r dyfarniadau gael cyfarwyddwyd, hyfforddiant nac arweiniad cyson, safonol a manwl ynghylch sut i bwyso a mesur buddiannau’r Gymraeg.
Credwn fod yr holl ffactorau uchod yn amlygu’r angen i godi lefel y drafodaeth ar y materion hyn a hyrwyddo agwedd fwy adeiladol, gydlynus a holistaidd tuag at y problemau tai ac eiddo sy’n effeithio ar gymunedau Cymru. Seiliwyd y ddogfen hon ar ymchwil y Gymdeithas i ddatblygiadau yn y maes ym Mhrydain a gweddill Ewrop. Hyderwn y bydd y ddogfen yn ennyn trafodaeth ehangach ynghylch natur argyfyngus y problemau hyn a dealltwriaeth ehangach o rai atebion posibl.
Carreg sylfaen ein dadleuon yn y ddogfen hon yw ein bod yn ystyried tai yn gartrefi neu’n ddarpar gartrefi yn hytrach na’u hystyried yn “nwyddau”, yn “fuddsoddiad” neu’n ffynhonnell ariannol ychwanegol ar gyfer hapfasnachwyr. Er mwyn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw, rhaid sicrhau cartrefi i siaradwyr y Gymraeg ac etifeddion yr hunaniaeth Gymreig.
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Chwefror 2012
Ein Bil Arfaethedig
Cred y Gymdeithas bod angen defnyddio Deddf Gynllunio er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer holl gymunedau Cymru, yr iaith Gymraeg, a’r amgylchedd naturiol.
Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddatrys yr argyfwng tai
… drwy roi’r hawl i bawb gael cartref ar rent teg yn eu cymuned, drwy roi’r cyfle cyntaf i
bobl leol wrth werthu eiddo, a thrwy ddod â’r farchnad dai ac eiddo yn raddol yn ôl o fewn
cyrraedd pobl leol mewn modd fydd yn sicrhau na fydd perchnogion presennol ar eu colled.
Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddiogelu cymunedau Cymru a’r Gymraeg
… drwy alluogi pobl leol i gael y tai a godwyd eisoes a’u hadnewyddu a’u haddasu os bydd angen; drwy beidio â chaniatáu codi tai newydd oni bai fod angen lleol a dim tai addas yno’n barod; a thrwy beidio â chaniatáu cynlluniau fyddai’n niweidiol i’r iaith Gymraeg — gan gynnwys rhai sydd wedi’u cymeradwyo’n barod.
Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd
… trwy reoli datblygiadau megis glo brig, chwareli a chanolfannau twristiaeth mawr yn
ogystal â thai diangen. Byddai hyn yn gam pwysig iawn tuag at ddiogelu amgylchedd naturiol
Cymru.
Felly, nod y Bil dylai fod:
- estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai ac eiddo er mwyn diwallu anghenion pobl leol yng Nghymru am dai
- diogelu a sicrhau cynaladwyedd cymunedau Cymru a’r Gymraeg
- diogelu’r amgylchedd.
Er mwyn cyflawni’r amcanion uchod, nodir chwech o bwyntiau y dylid eu cynnwys yn y Bil:
1. Asesu’r Angen Lleol
Dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal ymchwil fanwl a pharhaol i’r angen lleol
am gartrefi ac eiddo ym mhob cymuned. Yna dylid llunio strategaeth i ddiwallu’r anghenion
hynny drwy ddefnyddio’r stoc bresennol o dai ac eiddo, oni bai fod honno yn annigonol neu’n
anaddas.
Ar hyn o bryd, mae caniatâd yn cael ei roi i godi tai heb wneud ymchwil digon trylwyr i'r angen lleol na'r effaith ar y Gymraeg. Yn aml, nid yw’r ymchwil yn ystyried amgylcheddau lleol, lefelau cyflogaeth leol, natur y boblogaeth a’r Gymraeg a gall hyn olygu bod pentrefi bychain yn dyblu mewn maint, neu fe godir rhagor o dai mewn ardal ble mae dros hanner y tai eisoes yn dai haf. Pe ganfyddir bod angen tai newydd er mwyn diwallu’r galw, ond ni roddir ystyriaeth i gwestiynau megis pa fath o dai sydd eu hangen, ar gyfer pwy, ar ba bris, sut i’w darparu a’u rheoli ac yn y blaen.
2. Tai ac Eiddo i’w Rhentu
Dylid rhoi’r hawl i bobl leol gael cartrefi neu fferm neu eiddo busnes ar rent rhesymol ac
mewn cyflwr boddhaol. Ymhellach, dylid rhoi dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i
sicrhau’r ddarpariaeth hon, a hynny o’r stoc bresennol oni bai ei bod yn anaddas. Mae’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat yn allweddol bwysig ar gyfer darparu cartrefi addas a fforddiadwy. Byddai’r Bil yn gosod y sector rhentu preifat dan reolaeth strategol yr awdurdodau lleol, yn adfywio’r sector rhentu cymdeithasol ac yn gwella mynediad i dai ar rent yn gyffredinol drwy strategaethau tai gwag mwy gweithredol a defnydd o dai gwyliau/ail gartrefi.
3. Cymorth i Brynwyr Tro Cyntaf
Dylai pob person sy’n dymuno prynu cartref am y tro cyntaf gael cymorth i wneud hynny.
Mae angen buddsoddiad pellach mewn cynllun cymorth prynu mwy hyblyg a datblygu
deiliadaeth hyblyg i ganiatáu i bobl symud rhwng perchnogaeth a rhentu. Gan fod prisiau tai yn parhau i fod y tu hwnt i’r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf ar hyn o bryd oherwydd yr angen am flaendal sylweddol, ac y bydd y sefyllfa hon yn parhau am beth amser ar ôl i’r Bil ddod i rym, mae’n hanfodol fod cymorth yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau mynediad i’r farchnad. Mae’n bosib y gellid gwneud hyn drwy ymddiriodeolaethau tir a fyddai’n gallu darparu tai at anghenion lleol a thai a fydd yn aros yn fforddiadwy gan fod y tir yn perthyn i'r ymddiriedolaeth.
4. Blaenoriaeth i Bobl Leol
Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae prisiau tai yng nghymunedau Cymru wedi cynyddu’n gyflym — heb unrhyw reolaeth a heb unrhyw ystyriaeth o anghenion y cymunedau hynny. Erys cyflogau Cymru ymhlith yr isaf yn y DU a chyda’r cynnydd parhaol ym mhrisiau tai ers canol y 1990au — a’r cynnydd ymhellach rhwng 1997 a 2007 — chwalwyd unrhyw gysylltiad rhwng y farchnad eiddo leol a gallu pobl i gystadlu yn y farchnad. Er y gwelwyd gostyngiadau ym mhrisiau tai rhai ardaloedd ers 2008 mae'r farchnad mewn rhan fwyaf o ardaloedd yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd pob leol. Gan fod cyflogau mewn ardaloedd lle mae’r iaith Gymraeg gryfaf, megis Gwynedd a Cheredigion, yn dueddol o fod yn is mae’n amlwg y caiff hyn effaith ar gynaladwyedd yr iaith:
Mae gallu pobl leol i gystadlu yn y farchnad dai yn digwydd bod yn is yn y mannau hynny lle mae materion iaith yn fwy tebygol o fod yn fwy argyfyngus. Gwelwyd cynnydd graddol mewn prisiau ers dechrau’r 1970au ac yna effeithiau cynnydd mawr diwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au. O ganol y 1990au mae’r farchnad dai wedi profi cyfnod arall o gynnydd. Cyflymodd hyn
unwaith eto hyd at 1997. Os dadansoddir y cynnydd o 124% rhwng 1997 a 2004 gwelir i 82%
ohono ddigwydd rhwng 2001 a 2004. Er y bu cwymp ers hynny o ganlyniad i’r dirwasgiad economaidd, ni chynyddodd lefelau cyflogaeth felly erys sefyllfa lle mae prisiau tai mewn llawer o gymunedau ymhell tu hwnt i gyrraedd y trigolion — hynny yw, nid yw’r farchnad leol yn bodoli.
Bwriad y pwynt hwn ydi ail-wampio’r broses o brynu a gwerthu eiddo i:
a. roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai gan ddod a’r farchnad yn raddol o fewn
cyrraedd pobl leol unwaith eto;
b. sicrhau nad ydi perchnogion presennol yn dioddef colled.
5. Cynllunio i’r Gymuned
Dylai’r drefn gynllunio wasanaethu buddiannau ac anghenion y gymuned leol — yn
gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ieithyddol. Dylai tai newydd ddiwallu anghenion lleol na
ellir eu diwallu o’r stoc dai bresennol, ac ni ddylid rhoi caniatâd ar gyfer cynlluniau a fyddai’n
niwedidiol i’r gymuned, na fyddai'n darparu tai addas, ac a fyddai'n niweidiol i'r iaith Gymraeg neu’r amgylchedd.
6. Ailasesu Caniatâd Cynllunio blaenorol
Dylid sicrhau na fydd caniatâd cynllunio a roddwyd yn y gorffennol yn ychwanegu’n ddiangen
at y stoc dai nac yn bygwth cymunedau, yr iaith Gymraeg neu’r amgylchedd. Mae yna ganiatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer miloedd ar filoedd o dai yng Nghymru. Er enghraifft, mae caniatâd cynllunio sy’n gyfredol ers pymtheg mlynedd a rhagor i godi cannoedd o dai ym Morfa Bychan ac Aberdyfi a llawer o gymunedau tebyg. Dylid ailedrych ar bob un o’r cynlluniau hyn sydd wedi derbyn caniatâd a gofyn yn syml — “a oes angen y tŷ/tai yma?”
Pwysleisiwn fod yna gydberthynas bwysig rhwng yr holl bwyntiau hyn, ac o’u cyfuno maent yn
cynnig un polisi cynhwysfawr ac amlochrog. Ni ddylid eu hystyried felly fel cyfres o amcanion
sy’n annibynnol ar ei gilydd na’u gweithredu’n ddi-gyswllt, gan ddewis a dethol rhai ac
anwybyddu eraill.
Mae gweithredu’r ddeddfwriaeth hon yn gysyniad cwbl ymarferol:
- Nid yw’n gofyn am newid y system economaidd — dim ond am estyn elfen o reolaeth dros un rhan o’r economi, fel sydd eisoes wedi digwydd ers blynyddoedd mewn mannau megis Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw, ac sydd wedi digwydd yn hefyd yn ne Sir Amwythig a Swydd Efrog.
- Mae pob rhan o’r cysyniad am ddeddfwriaeth fel hon â chynsail iddi yng nghyfraith neu bolisi tai a chynllunio gwledydd Prydain.
- Ni fydd perchnogion tai presennol ar eu colled o dan y drefn a argymhellwn, gan na fydd yn rhaid i neb werthu eiddo am bris is na’u buddsoddiad. Byddai ein deddfwriaeth arfaethedig yn darparu dull o sefydlogi prisiau tai yn raddol, nid dyfais i beri colled ariannol i berchnogion tai. Wrth i gyflogau a phrisiau tai lleol ddod i adlewyrchu ei gilydd yn fwy cywir, daw mwy o bobl leol i fedru fforddio prynu tai.