Daw'r cyfnod gwrthwynebu i ben am 10am ar 15.2.21
Dylid danfon ymatebion i ysgolionmon@ynysmon.gov.uk ac mae'r ddogfen ymgynghori
i'w gweld yma
Gwrthwynebiad i’r Rhybudd Statudol i gau Ysgol Gynradd Talwrn - gan Grŵp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith
Bydd Cyngor Ynys Môn yn ymwybodol wrth reswm fod cyfrifoldeb arno (yn ôl Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018) i ystyried pob gwrthwynebiad i Rybudd Statudol i gau ysgol "gyda meddwl agored" h.y. heb ragdybiaethau, faint bynnag o waith y mae wedi ei gyflawni ar ei gynigion ei hunan. Mae'r Côd yn gosod y cyfrifoldeb hwn ar gynigydd y cynnig a chyhoeddwr y Rhybudd yn benodol. Er nad yw'r Côd yn gosod yr un cyfrifoldeb ar wrthwynebwyr, nid ein bwriad yma yw ailadrodd pob gwrthwynebiad o'r gorffennol, a gofyn i chwi eu hystyried o'r newydd, ond yn hytrach ganolbwyntio ar dri rheswm sylfaenol pam na ddylai'r Cyngor gadarnhau ei benderfyniad i gau'r ysgol wedi ystyried y gwrthwynebiadau.
Pwysleisiwn nad ydym yn gwrthwynebu o gwbl y buddsoddiad pellach yn Ysgol Y Graig Llangefni, ond nid yw'n dilyn fod angen cau Ysgol Talwrn o ganlyniad - fel a brofwyd yn yr ymgynghoriad cyfamserol ar gyfer addysg yng ngorllewin ardal Llangefni.. Mae'r dadleuon hyn yn ymwneud ag adeiladau a'u capasiti. O safbwynt addysgol a gweinyddol (yn cynnwys arweinyddiaeth) gellir yn annibynnol ar y ddadl hon hyrwyddo gwahanol fodelau o gydweithio a rhannu adnoddau rhwng y ddwy ysgol hyn, neu rhwng ysgolion yn ehangach yn ardal Llangefni. Fodd bynnag, yn lle ailadrodd dadleuon felly a gyflwynwyd yn flaenorol, canolbwyntiwn ar y tri rheswm sylfaenol paham na ddylid cau Ysgol Talwrn fel rhan o brosiect uwchraddio Ysgol Y Graig -
1) GAN NA SEFYDLWYD UNRHYW RESWM DA DROS GAU YSGOL TALWRN
Mae amddifadu cymuned o'u hysgol yn gam difrifol iawn i'w gymryd, a rhaid sefydlu rheswm llethol dros orfod cymryd y cam hwnnw. Ni chyflwynwyd unrhyw reswm argyhoeddiadol, heblaw am hwylustod gweinyddol, dros gymryd y cam difrifol hwn -
a) Nid oes problem o ran niferoedd gwag yn yr ysgol. Yn ôl ffigurau diweddaraf (Asesiad Effaith wedi ei ddiweddaru), dim ond 3 lle gwag fydd yn yr ysgol fis Medi yma.Yn ôl Llywodraeth Cymru, ni ddylai llefydd gwag fod yn rheswm dros gau ysgol heblaw am fod lefel "arwyddocaol" a ddiffinir fel 25% a chyfanswm o 30 lle gwag. Nid yn unig felly fod Ysgol Talwrn yn agos at ei chapasiti llawn, ond bydd niferoedd bob amser yn cynyddu mewn ysgol unwaith y rhoddir sicrwydd am ei dyfodol.
b) Ni bu unrhyw awgrym nad yw'r ysgol yn llwyddo'n addysgol yn ôl yr holl ddangosyddion. Mae cefnogaeth deuluol a chymunedol yn asedau o bwys o ran yr addysg, a gellid llunio modelau cydweithio fel y byddai disgyblion Talwrn yn gallu mantieisio hefyd ar adnoddau materol newydd a gyflwynir yn Llangefni.
c) Yr unig reswm penodol a roddwyd dros gau Ysgol Talwrn oedd cyflwr yr adeilad, a gofynnwn i Gyngor Môn ailedrych ar y ddadl hon gyda meddwl agored. Categori B, nid C, sydd i'r adeilad. Golygir yn gyffredinol felly fod yr adeilad mewn cyflwr "boddhaol" nid "gwael". Dywedir fod gofod "cyfyngedig" i gyflwyno'r holl gwricwlwm ond, os felly, mae'n amlwg fod datrysiadau amgen heblaw am gymryd y cam drastig o gau'r ysgol. Gall neuadd y pentref gael ei defnyddio at rai gweithgareddau, a byddai model o gydweithio'n gallu golygu fod y disgyblion yn gallu rhannu rhai o adnoddau Ysgol y Graig. Dengys yr Astudiaeth Effaith fod hyd yn oed Ysgol Y Graig yn gorfod defnyddio rhai safleoedd eraill i gyflwyno rhai gweithgareddau. Yn sicr felly nid yw "cyfyngiadau" honedig adeilad Ysgol Talwrn yn rheswm dros gau'r ysgol. Beth am gost yr adeilad ? Adeilad categori B ydyw, ond hyd yn oed petai'r Cyngor am wario'r holl £360,000 a amcangyfrifwyd ar gyfer cynnal a chadw, gallai ychwanegu'r swm hwnnw at y cais am grant o Gronfa Ysgolion y 21ain ganrif. Datganodd y Gweinidog Addysg yn y Senedd fis Mai (mewn ateb i gwestiwn gan Rhun Ap Iorwerth AS) fod modd defnyddio'r gyllid o'r gronfa at ddiben adeiladu ysgolion newydd, adeiladau newydd i ysgolion cyfredol, NEU uwchraddio adeiladau presennol. Ni roddwyd manylion am y swm o £360,000 ond petai'r Cyngor yn penderfynu cynnwys swm felly mewn cais at y gronfa, ni byddai ond yn gyfran bach o gyfanswm y ddau ddatblygiad sylweddol yn y dref, ac yn arwydd fod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu ychydig o fuddsoddi ! Byddai cyfran y Cyngor o swm felly - £126,000 - yn golygu rhyw £5000 y flwyddyn dros y cyfnod o 25 mlynedd - swm bach iawn am fuddsoddi yn nyfodol cymuned wledig.
ch) Wedi cyfnod hirfaith o drafod, mae cymunedau gwledig tebyg ym Modffordd a Llangristiolus wedi cadw eu hysgolion, ac anodd iawn yw deall rhesymeg eithrio Talwrn o'r un casgliad.
d) Nid ein barn ni yn unig yw na sefydlwyd unrhyw reswm da dros gau Ysgol Talwrn, ond y mae canlyniadau'r Ymgynghoriad yn dangos mai dyna farn bron yn unfryd y gymuned yn Nhalwrn. Ymddengys nad yw arweinyddiaeth na llywodraethwyr Ysgol Y Graig chwaith yn gweld mantais mewn cau Ysgol Talwrn. Yn wyneb yr uchod oll, yr unig gasgliad yw na sefydlodd y Cyngor Sir unrhyw reswm diogel i gymryd cam mor ddifrifol â chau Ysgol Talwrn
2) OHERWYDD YR EFFAITH DDINISTRIOL AR Y GYMUNED A'R GYMRAEG YN NHALWRN
Derbyniwn yn llwyr na byddai disgyblion o Dalwrn dan unrhyw anfantais o ran derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg o symud at Ysgol Y Graig, er gwrthodwn y ddadl simplistaidd y byddai effaith gadarnhaol oherwydd fod mwy o ddigyblion yn golygu mwy o "gyfleon" siarad Cymraeg. Fodd bynnag, y berygl yw y bydd nifer o ddisgyblion o Dalwrn (ac yn enwedig plant i deuluoedd o fewnfudwyr) yn dod i weld y Gymraeg fel cyfrwng addysg yn unig os bydd eu cymuned bentrefol yn colli bywyd Cymraeg o ganlyniad.
Mae Cyngor Ynys Môn yn ddarostyngedig i Safonau’r Iaith Gymraeg. Dywedir yn yr Asesiad Effaith Iaith Gymraeg “Egwyddorion sylfaenol y Safonau yw na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac y dylid hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd” Eto mae’r datganiad yn mynnu “Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddor ……….. y dylai trigolion yr ynys allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant wneud hynny” Dyma ymrwymiad corfforaethol felly nid yn unig at gynyddu nifer yr unigolion sy'n medru'r Gymraeg, ond hefyd at gynnal a chryfhau cymunedau Cymraeg. Mae'n eitha hunan-amlwg fod tynnu'r ysgol Gymraeg o'r pentre yn mynd i gael effaith ddinistriol ar fywyd cymdeithasol Cymraeg y gymuned. Her mawr ar Ynys Môn fydd cymhathu teuluoedd o fewnfudwyr fel eu bod yn dod yn rhan o fywyd Cymraeg. Y dull mwyaf effeithiol o wneud hyn yw trwy gynnal a datblygu ysgolion Cymraeg ym mhob cymuned sydd nid yn unig yn Cymreigio'r plant yng nghyd-destun eu cymuned, ond hefyd yn rhoi ymdeimlad o gyfranogiad (perchnogaeth hyd yn oed) i'w rhieni yn y bywyd Cymraeg lleol. Yn amlwg, ni bydd y weithred o roi plant ar y bws neu eu gollwng wrth fynedfa'r ysgol yn y dref yn rhoi'r un profiad i rieni felly. Mae angen datblygu'r ysgolion pentrefol fel gyrwyr adfywiad cymdeithasol a diylliannol yn hytrach na'u cau.
Mae'r Astudiaethau Effaith yn colli hygrededd o gasglu y byddai cau Ysgol Talwrn yn "gadarnhaol" ei effaith ar y Gymraeg, ac yn "niwtral" o ran ei effaith ar y gymuned leol yn Nhalwrn. Yn wir, mae'r Astudiaeth Effaith yn gwrthddweud ei hun. Mae adran 2.3.3 yn cydnabod y caiff cau'r ysgol effaith cymdeithasol-economaidd "negyddol", tra bo adran 4.8 yn casglu "Byddai’r cynnig i weld yn cael effaith niwtral ar y gymuned"!!
Os yw'r Cyngor Sir o ddifri am ei amcan gorfforaethol o gryfhau cymunedau Cymraeg yr ynys, camgymeriad enbyd fyddai cau ysgol gymunedol Gymraeg heblaw am fod rhesymau eithriadol o anorchfygol dros wneud hynny. Sefydlwyd yn yr adran flaenorol nad yw hyn yn wir.
3) AR BEN HYN, BYDDAI CAU YSGOL TALWRN YN RISGIO NA BYDD DIGONEDD O LEFYDD YSGOL YN YR ARDAL AR GYFER Y CYFNOD 25MLYNEDD O'R BUDDSODDIAD
Tynnwn eich sylw at benderfyniad tebyg a wnaed yn 2012 gan Gyngor Sir Dinbych pryd y caewyd Ysgol Llandrillo er mwyn trosglwyddo'r plant i adeilad newydd yn yr ysgol (Bro Ddyfrdwy) yng Nghynwyd dair milltir i ffwrdd. Wedi agor yr adeilad newydd, yr oedd yn orlawn o fewn 5 mlynedd (2019). Nid ydym yn honni y byddai Ysgol y Graig yn orlawn o fewn 5 mlynedd, ond dynodwyd ardal Llangefni yn ardal dŵf yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn. Yn ôl rhagamcanestyniadau'r Cyngor ei hun, ni byddai ond 60 lle gwag (allan o 480) sef 12.5% eisoes erbyn 2026 a gallai'r ysgol fod yn orlawn o fewn y ddegawd ganlynol. Byddai cadw Ysgol Talwrn hefyd yn darparu 47 lle ychwanegol yn yr ardal eang, ac yn ôl ffigurau'r Awdurdod, byddai capasiti cyfan y ddwy ysgol yn 80% yn llawn. Mae'r ffigur o 20% yn dal yn ddiogel o dan y ffigur o 25% o lefydd gwag a ddynodir gan y Llywodraeth fel lefel "arwyddocaol" o lefydd gwag, a byddai gyda chwi sicrwydd o lefydd ysgol digonol am gyfnod y buddsoddiad hyd yn oed os gwireddir y tŵf disgwyliedig yn y boblogaeth.
CASGLIAD - Ni sefydlwyd unrhyw reswm digonol dros gau Ysgol Talwrn fel ag i risgio tanseilio'r gymuned leol. Yn wir, bydd cynnal yr ysgol yn cyfrannu at amcanion corfforaethol y Cyngor, yn rhoi sicrwydd i'r Cyngor am lefydd ysgol digonol, ac yn rhoi i Dalwrn yr un sicrwydd ag a roed i gymunedau eraill. Gwrthwynebwn felly y Rhybudd Statudol i gau Ysgol Talwrn, ond cefnogwn y buddsoddiad yn Ysgol y Graig.