“Gweithredwch cyn bod eich amser yn dod i ben” – neges i Lywodraeth Cymru gan rali yng Ngwynedd

Bydd rali a gynhelir yn Nefyn ar 29 o Fawrth yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb ar frys ac o ddifrif i argymhellion pwysig y Comisiwn Cymunedau Cymraeg fel bod amser i weithredu cyn diwedd oes y Senedd bresennol.

Ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, dywedodd Osian Jones:
“Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi’i adroddiad a’i argymhellion ers saith mis bellach, ond does yna ddim ymateb wedi bod gan y Llywodraeth hyd yma, a dim ond blwyddyn sydd ar ôl i weithredu cyn bod oes y Senedd yma’n dod i ben. Mae hyd yn oed y buddsoddiad cyfyngedig iawn ym mhrosiect Arfor yn dod i ben y mis yma, ac mae’n amlwg nad oes gan y Llywodraeth ddim ymwybyddiaeth o’r argyfwng sy’n wynebu’n cymunedau Cymraeg.”

Un o’r siaradwyr yn y rali fydd y Prifardd Ieuan Wyn o Ddyffryn Ogwen. Bydd yn dweud wrth y cannoedd y disgwylir iddynt ymgynnull:
“Gyda'n hiaith yn yr argyfwng gwaethaf yn ei hanes, mae hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar frys i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Mae gofyn inni weithredu'n gymunedol hefyd, ac mae nifer o gynghorau cymuned a thref eisoes wedi rhoi arweiniad drwy eu dynodi eu hunain yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch ac yn galw am fesurau i'w gwarchod a'u cryfhau. Mae’n bryd i’r llywodraeth ddilyn lle mae ein cymunedau wedi arwain.”

Bydd cwestiwn i’r Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos nesaf yn holi’r Llywodraeth am ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Bydd Rali Nid yw Cymru ar Werth Nefyn ar 29ain yn cael eu chynnal am 2 o'r gloch wrth Westy'r Nanhoron pan fydd Mared Llywelyn yn cyflwyno:
Walis George
Liz Saville Roberts
Myrddin ap Dafydd
Ieuan Wyn
Iwan Rhys Evans.

Bydd gorymdaith at y rali yn dechrau am 1.30 ym Maes Pario'r Ddôl, Y Fron.

Mae mwy o wybodaeth am y rali i'w weld trwy bwyso yma