"Peidiwch â throi'r cloc yn ôl 30 mlynedd"- Neges Addysgwyr i'r Gweinidog

Mae ymhell dros gant o addysgwyr o Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi wedi llofnodi llythyr, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, at y Gweinidog Addysg yn galw arni i dynnu allan o Fil y Cwricwlwm unrhyw gyfeiriad at orfodi ysgolion i ddysgu Saesneg i blant o 4 oed. Mae'r 115 o addysgwyr yn cynnwys athrawon, swyddogion addysg a llywodraethwyr presennol ac eraill sydd wedi gwasanaethu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn eu plith y mae nifer o unigolion allweddol fu'n cynllunio addysg dros y 30 mlynedd diwethaf ac wedi ymddeol - yn cynnwys Cyn-Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Caerfyrddin Martin Cray, Cyn-ymgynghorydd y Llywodraeth ar addysg Toni Schiavone, Dr Siân Wyn Siencyn (cyn-Bennaeth Ysgol Plentyndod Cynnar Coleg y Drindod) a chyn-brifathro Ysgol Uwchradd Bro Myrddin y Cyng Dorian Williams. Mae cefnogaeth drawiadol wedi dod gan Ysgol Uwchradd Bro Teifi, Llandysul, sy'n addysgu plant o'r ddwy ochr i'r afon. Mae'r holl dîm arweiniol (Prifathro Robert Jenkins a'i bedwar ddirprwy), Pob un o'r 30 o athrawon a chynorthwywyr cynradd, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Cynghorydd lleol Cyng Keith Evans i gyd wedi llofnodi'r llythyr.

Esboniodd ysgrifennydd lleol Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams "Gan ein bod wedi cael gwybod fod Bil y Cwricwlwm i'w gyhoeddi Ddydd Llun nesaf (Gorffennaf 6ed), fe ddanfonon ni wahoddiad yn syth dros y penwythnos at addysgwyr i lofnodi'r llythyr gan fod teimlad cryf y byddai gorfodi plant i dderbyn addysg Saesneg yn troi'r cloc yn ôl rhyw 30 mlynedd yn ein hardal ni ac yn ei wneud yn galetach i ysgolion eraill i symud at addysg Gymraeg. Derbyniodd pawb cyn diwedd y ganrif ddiwethaf mai dim ond trwy ddull trochiant yn y Gymraeg o'r oed cynharaf y byddai plant yn gallu siarad a gweithio'n Gymraeg. Dyma ddadl a setlwyd ar ddechrau'r 1990au, a byddai gorfodi pob ysgol unigol i gyflwyno achos dros eithrio o drefn Saesneg orfodol yn ailgynnau hen ddadleuon. Byddai'n atal ein plant oll, yn enwedig plant newydd-ddyfodiaid, rhag gallu chwarae rhan llawn ym mywyd eu cymunedau. Cawsom ein llethu gan yr ymateb cadarnhaol gan addysgwyr lleol a'n gobaith yw y bydd Kirsty Williams yn cydnabod mai camgymeriad yw hyn, ac yn gadael gorfodaeth i gyflwyno Saesneg o'r oed cynharaf mas o'r Bil."

Daw'r gwrthwynebiad hwn ar ben dwy neges arall at y Gweinidog yn gwrthwynebu'r orfodaeth Saesneg yr wythnos ddiwethaf - un gan y Cyng Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a'r llall gan Fforwm Iaith Sir Caerfyrddin, wedi ei lofnodi, ymhlith eraill, gan swyddogion y Mentrau Iaith, yr Urdd, Ffermwyr Ifainc, Merched y Wawr, y Cyngor Sir a'r sefydliadau addysg bellach ac uwch. Cadeirydd y Fforwm Sirol, a anfonodd y llythyr at y Gweinidog, yw'r cyn-Gomisiynydd Iaith Meri Huws. Mae gwrthwynebiad unedig yn Sir Gâr a Dyffryn Teifi.

Mae'r llythyr a'r llofnodwyr i gyd i'w gweld yma