13 yn Rif Lwcus i Ffans Anweledig

Anweledig Fel arfer mae’r rhif 13 yn cael ei ystyried yn anlwcus ond i’r gwrthwyneb fydd hi i ddilynwyr y band Anweledig yn gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor ar nos Iau yr Eisteddfod eleni. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Mae Anweledig wedi bod yn un o gewri y sîn roc Gymreag ers iddyn nhw ffurfio ym Mlaenau Ffestiniog 13 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod yr amser hwn, maent wedi dod yn enwog am gymeriad hwyliog, chwareus a lliwgar eu perfformiadau sydd bob amser wedi diddanu ac, ar adegau, syfrdanu.Yn unol â’u traddodiad o fynd yn groes i’r graen, mae’r band wedi penderfynu dathlu y garreg filltir draddodiadol anlwcus hon drwy berfformio un can o’u heiddo o bob blwyddyn ers 1992. Meddai Ceri Cunnington, prif leisydd enigmataidd Anweledig:
Roedden ni’n awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni, felly mi benderfynon ni y buasen ni’n perfformio ein hoff gan ni o bob blwyddyn rydan ni wedi bod efo’n gilydd mewn trefn gronolegol. Gobeithio bydd pobl yn mwynhau cael clywed rhai caneuon na fyddwn ni’n eu gwneud yn aml iawn erbyn hyn - dwi’n sicir yn edrych ymlaen i’w perfformio nhw!

Mae Anweledig wedi dod yn bell iawn ers y dyddiau cynnar hynny ddechrau’r nawdegau a’r gig cyntaf yn Aelwyd yr Urdd, Blaenau Ffestiniog. Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:
Mae Anweledig yn fand sydd wedi esblygu’n gerddorol yn gyson, o’u dyddiau roc cynnar, i arddulliau mwy arloesol i’r sîn Gymraeg fel ska a reggae. Bydd hwn yn gyfle gwych i ddilyn y llwybr cerddorol mae Anweledig fel band wedi ei droedio ac i glywed yr holl anthemau poblogaidd mewn un noson. Heb os, bydd y gig yma yn nglwb nos Amser yn un o uchafbwyntiau wythnos yr Eisteddfod eleni: mae am fod yn anhygoel!

Yn ogystal ag Anweledig, bydd y noson hefyd yn gyfle i glywed eraill o berfformwyr byw mwyaf egnïol Cymru. Yn cefnogi ar y noson bydd Ashokan, Eryr, Rasputin, Cofi Bach a Tew Shady, y Llofruddion a Kenavo – fydd yn lansio eu EP newydd ar y noson gyda’r 200 copi sydd wedi eu gwneud yn cael eu rhoi i ffwrdd am ddim.