Fe ymgasglodd dros 200 o bobl heddiw ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo. Bu adloniant byw ar y Maes cyn i bawb orymdeithio draw i Swyddfeydd y Cynulliad yn y dref, lle cafodd Proclemasiwn gan y Gymdeithas ei godi ar furiau'r Swyddfeydd.
Yn ystod y rali, condemiodd Cymdeithas yr Iaith y ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.Pwysleisiwyd fod cyllideb tai y Cynulliad bellach yn llawer is nag ydoedd yn nyddiau'r hen Swyddfa Gymreig! O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, datganodd Cymdeithas yr Iaith bod y mudiad bellach am ganolbwyntio ar ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol, gan gynnwys ymyraeth yn y farchnad dai trwy gyfrwng Deddf Eiddo.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Tra bod y Llywodraeth yn llaesu eu dwylo, mae effeithiau’r argyfwng tai yn parhau i frathu, gan danseilio cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg. O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan bod yn rhaid bellach ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol, gan gynnwys elfen o reolaeth o’r farchnad dai.""Gellid cyflawni hyn trwy gyfrwng Deddf Eiddo – pecyn o fesurau a fyddai yn sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i'r farchnad dai, bod prisiau tai yn adlewyrchu'r farchnad leol, bod datblygiadau o dai yn adlewyrchu'r angen lleol a bod digon o dai ar rent. "“Bu aelodau o’r Gymdeithas wrthi, ers rai misoedd, yn ail-edrych ar bolisi Deddf Eiddo’r mudiad, gan roi ystyriaeth i ddatblygiadau diweddar yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain ac Ewrop.""Trwy gyfrwng y rali yma yng Nghaernarfon rydym yn lawnsio’r ymgyrch newydd hon. Yna ymhen pythefnos bydd Cymdeithas yr Iaith yn lawnsio cyfnod o ymgynghori ar gynigion Deddf Eiddo. Byddwn yn galw ar gynghorau, sefydliadau, a mudiadau, i ddatgan cefnogaeth i’n galwadau er mwyn dwyn pwysau ar y Llywodraeth."CefndirDros y flwyddyn ddiwethaf, bu ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith ym maes tai, yn canolbwyntio ar dynnu sylw at gyfres o gamau brys y gallai Llywodraeth y Cynulliad eu cymeryd er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng tai. Yn sicr ni fyddai’r camau hyn wedi mynd at wraidd y broblem, gan ddatrus popeth, ond fe fyddent wedi bod yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir. Galwyd ar y Llywodraeth i ddarparu cynnydd sylweddol yn ei gyllideb tai ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn darparu:- mwy o gyllid ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu- gwell darpariaeth o dai ar rentFel rhan o'r ymgyrch, casglwyd cefnogaeth dros 130 o Gynghorau Cymuned o bob rhan o Gymru. Ar ben hynny cynhaliwyd cyfarfodydd gyda llu o Aelodau Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog Perthnasol - Edwina Hart.Trwy wrthod ystyried y camau brys a gynigiwyd iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, dangosodd Llywodraeth y Cynulliad nad oes budd mawr mewn ymgyrchu dros newidiadau cyfung, llawer gwell bellach yw i ymgyrchu dros becyn cyflawn o newidiadau – Deddf Eiddo!Mae Lluniau o'r Rali yn awr arlein yn Oriel Lluniau Cymdeithas yr IaithStori oddi ar wefan y Wales on SundayStori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd 1Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd 2