Bydd modd gwario dros £60 miliwn yn fwy ar ddarlledu cyhoeddus a sefydlu tair sianel deledu a thair gorsaf radio Cymraeg, os caiff y pwerau eu datganoli i Senedd Cymru, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Mae'r papur polisi a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith yn amlinellu model o ddatganoli a fyddai'n esgor ar arian ychwanegol i Gymru pe baiAelodau Cynulliad yn cael y pwerau newydd. O dan gynllun y Gymdeithas, byddai tua £190 miliwn y flwyddyn yn dod yn sgil datganoli'r ffi drwydded i Gymru. Amlinellir yn y papur hefyd gynigion i godi ardoll newydd ar gwmnïau megis Google, Sky a Facebook a allai godi hyd at £30 miliwn y flwyddyn, gyda ffigwr tebyg o arian ychwanegol drwy drosglwyddo pwerau i Gymru.
Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd eleni, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru. Mae dros hanner cant o bobl yn gwrthod talu am eu ffi drwydded deledu fel rhan o ymgyrch y mudiad i ddatganoli darlledu, gan gynnwys yr awdures Angharad Tomos a Heledd Gwyndaf a fydd yn siarad yn y lansiad.
Meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym wedi gosod allan gynigion manwl yn y papur hwn, ond yn y pendraw swyddogaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill fydd paratoi’r manylion er mwyn datganoli’r pwerau. Fodd bynnag, mae’r brif egwyddor yn ddiamheuol: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ac mae'n glir o arolygon barn bod y rhan helaeth o bobl Cymru yn cefnogi hynny.
“Mae sefyllfa ariannol darlledu Cymraeg a Chymreig yn hynod fregus fel y mae; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd bod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.“
"Byddai datganoli darlledu felly yn hwb enfawr i ddarlledu a democratiaeth Cymru, gyda llawer mwy o arian yn cael ei wario ar ddarlledu yng Nghymru nag sydd heddiw. Yn ogystal â hynny, byddai'r holl raglenni darlledu cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu o safbwyntiau Cymru felly byddent yn adlewyrchu dyheadau pobl Cymru."
Mae'r papur hefyd yn datgan bod modd ariannu tair sianel deledu Gymraeg eu hiaith, tair gorsaf radio, nifer o lwyfannau newydd ar-lein ynghyd ag endid dwyieithog newydd. Ychwanegodd:
"Rydym yn hyderus y byddai modd i Gymru, wedi i ni ddatganoli darlledu, nid yn unig gynyddu gwariant ar S4C ar ei newydd wedd, sef 'Sianel Cymru 1', ond yn ogystal ehangu’r ddarpariaeth ... Yn wir, bydd y buddsoddiad mewn darlledu yn llawer uwch nag y mae heddiw - dyna’r budd a ddaw yn sgil datganoli. "
Yn 2014, argymhellodd Comisiwn Silk - adolygiad o'r setliad datganoli a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain - y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhannol gyfrifol am ariannu S4C. Ychwanegodd Carl Morris:
"Mae'r achos dros wneud Lywodraeth Cymru'n gyfrifol am ariannu S4C ynddiamheuol wedi'r difaterwch a'r toriadau creulon ers blynyddoedd bellach sydd wedi dod o du Llywodraeth Prydain. Yn wir, mae'n anodd gweld sut gallai'r Gweinidogion yn San Steffan gyfiawnhau peidio â gweithredu'r argymhelliad trawsbleidiol yna."