Prif Swyddog Cyngor yn galw ar roi terfyn ar y Gymraeg fel 'ail iaith'

Mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos, galwodd Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin Mr Gareth Morgans ar Lywodraeth Cymru i ddileu "Cymraeg Ail Iaith" ac i weithredu argymhellion pwyllgor yr Athro Sioned Davies i ddysgu Cymraeg i bawb ar un continwwm. Gwnaed y galwad mewn cyfarfod a fynychwyd gan 60 o bobl "Tynged yr Iaith yn Sir Gâr" a drefnwyd gan y Gymdeithas i holi prif gynghorwyr a swyddogion am ddatblygiad addysg Gymraeg yn y sir.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis
"Gan ein bod yn disgwyl cyhoeddiad gan y llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf ar ddyfodol y cwricwlwm, rydym yn arbennig o falch fod pennaeth Gwasanaeth Addysg Sir Gaerfyrddin Gareth Morgans wedi defnyddio cyfle'n cyfarfod i alw ar y llywodraeth i ddileu Cymraeg Ail Iaith ac i weithredu argymhellion pwyllgor yr Athro Sioned Davies i ddysgu Cymraeg i bob disgybl fel eu hiaith eu hunain. Mae'r llywodraeth wedi cymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gar, ac mae gosod pob ysgol ar gontinwwm tuag at gyflwyno addysg Gymraeg yn rhan hanfodol o'r cynllun. Ac eto mae trefniadau'r llywodraeth ei hun yn gwneud hwn yn broses hirwyntog gan fod yn rhaid cael ymgynghoriad hirfaith bob cam o'r ffordd os bydd un person yn y gymuned yn gwrthwynebu'r Gymraeg.

"Yn dilyn ein trafodaethau heddiw, galwn ar y llywodraeth i ddatganoli i siroedd fel Caerfyrddin yr hawl yn eu strategaeth i greu eu categoriau iaith eu hunain i ysgolion, ac i weithredu newidiadau os bydd dwy ran o dair o rieni a llywodraethwyr yn cymeradywo wedi ymgynghori anffurfiol cryno. Mae 40% o ddisgyblion Caerfyrddin yn dal i gael eu hamddifadu o'r gallu i weithio'n Gymraeg, ac mae angen i'r llywodraeth roi'r gallu i'r Cyngor Sir unioni'r cam."

Y stori yn y wasg:

Dileu Cymraeg 'ail iaith' - Golwg 360 29/06/15