Achub Ysgol Bodffordd - croesawu tro pedol Cyngor Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’n wresog dro pedol Cyngor Ynys Môn sy’n golygu na fyddan nhw’n cau Ysgol Bodffordd.  

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith:

“Mae’r penderfyniad i beidio â chau’r ysgol yn newyddion gwych i’r gymuned leol. Rydyn ni’n llongyfarch y rhieni a’r ymgyrchwyr lleol, sy’n ysbrydoliaeth i bobl ledled y wlad. Rydyn ni’n annog Cyngor Môn i fynd ati nawr i drafod yn gadarnhaol gyda’r rhieni a’r gymuned er mwyn datblygu’r ysgol. Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams hefyd yn haeddu canmoliaeth am gytuno i gynnal ymchwiliad sydd wedi arwain at y tro pedol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld union fanylion penderfyniad y Cyngor yn fuan. Gobeithio bod hyn yn arwydd clir i awdurdodau ledled Cymru bod angen iddyn nhw gymryd y cod newydd, a’r rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion bychain yn agored, o ddifrif.”

“Mynnwn fod yr ysgol newydd yn nhref Llangefni yn mynd yn ei blaen yn dilyn hyn: ni ddylai'r cyngor geisio awgrymu bod cystadleuaeth rhwng cymunedau lleol.”