![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/IMG-20170529-00055.jpg)
Bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif, yn ôl gwaith ymchwil mudiad iaith.
Yn ôl gwaith ystadegol a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw, ymhen ychydig dros ugain mlynedd bydd yn rhaid i 19 allan o'r 22 cyngor sir yng Nghymru sicrhau bod mwyafrif eu plant yn y system addysg cyfrwng Cymraeg. Ac, erbyn 2040, bydd rhaid i dros tri chwarter o blant saith mlwydd oed fod yn y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, safle Eisteddfod yr Urdd eleni, awgryma'r ymchwil y bydd rhaid i'r canran o blant saith mlwydd oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg fwy na threblu, o 8.6% i 28.6%, erbyn 2030. Yn sir y Fflint, bydd rhaid i'r canran gynyddu o 5.7% i 20.4%, ac, yn Sir Gaerfyrddin o 55% i 84.1%. Yng Nghonwy a Sir Ddinbych, er mwyn cyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr, bydd angen i'r awdurdodau gynyddu'r ddarpariaeth o tua chwarter plant yn mynychu ysgol Gymraeg i bron i 60%.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r cyn Aelod Cynulliad Aled Roberts gynnal adolygiad o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg pob sir yng Nghymru. Yn siarad cyn i'r mudiad gyhoeddi'r ymchwil ar faes Eisteddfod yr Urdd, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Dim ond un darn o'r jig-so yw'r ystadegau hyn, ond mae'n ddarn allweddol os yw'r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged. Mae'n bwysig sylweddoli bod y targedau arfaethedig hyn yn seiliedig ar dybiaethau optimistaidd o ran newidiadau demograffig, felly dyma'r lleiafswm sy'n bosib ei ganiatáu o ran twf addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd y filiwn o siaradwyr. Yn wir, mae 'na ddadl gref bod rhaid symud yn gyflymach ac yn bellach. Felly, yn y tymor byr, un o'r meini prawf pwysicaf i'r Llywodraeth yw sicrhau bod mwyfwy o athrawon yn cael eu hyfforddi i addysgu drwy'r Gymraeg. Fodd bynnag, rydym eto i weld newidiadau trawsnewidiol: newidiadau sydd eu hangen ar frys erbyn hyn.
"Mae targedau o'r math yma, fel rhan o becyn o fesurau, yn allweddol er mwyn cyflawni'r dyhead trawsbleidiol i sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Fel dywedon ni ddwy flynedd yn ôl yn ein dogfen weledigaeth, yn ogystal â'r elfen addysg, bydd angen mesurau i leihau'r allfudiad, o bobl ifanc yn enwedig, ynghyd â normaleiddio defnydd yr iaith ym mhob maes bywyd.
"Mae ein haelodau lleol ni wedi ymateb a chraffu ar eu cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg lleol: maent yn annigonol a dweud y lleiaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried system sy'n gosod targedau ar awdurdodau lleol, sy'n cynnwys lleiafswm o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ry'n ni'n credu y dylai'r system orfodi awdurdodau i gynllunio sut y byddan nhw'n cyflawni eu targedau, er mwyn creu'r filiwn o siaradwyr."
Dywed y mudiad bod rhaid, law yn llaw ag ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob sefydliad, gweithredu cynllun y Llywodraeth i sicrhau bod pob plentyn yn astudio'r un cymhwyster Cymraeg o 2021, gan ddisodli Cymraeg ail iaith.
Wrth gyfeirio at yr her mewn siroedd eraill, ychwanegodd Toni Schiavone:
"Ar yr ochr gadarnhaol, heb os, mae bwriad y Llywodraeth i symud pob ysgol lan y continwwm o ran darparu mwyfwy o addysg cyfrwng Cymraeg, a'r penderfyniad i ddileu Cymraeg Ail Iaith, yn galonogol. Ym mhob sir, dylen ni ddisgwyl i'r gyfundrefn addysg sicrhau bod pob plentyn yn gadael ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg.
"Mewn nifer o siroedd, dilyniant yn y system addysg cyfrwng Cymraeg yw'r her fwyaf. Yn siroedd fel Gwynedd, mae dileu'r opsiwn o sefyll yr arholiad ail iaith yn rhan hanfodol o wella'r sefyllfa, gan y bydd yn atal y posibiliad bod y system yn caniatáu i ddisgyblion golli eu gafael ar yr iaith. Mae'r diffyg dilyniant rhwng addysg gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd yn broblem fawr mewn nifer o siroedd, yn enwedig yn y Gogledd a'r Gorllewin."
Y Stori yn y wasg:
Yr Ymchwil:
[Cliciwch yma i agor yr ymchwil llawn]
Gan ddefnyddio'r twf blynyddol angenrheidiol o 2.5% y flwyddyn fel sail, mae dosrannu'r canrannau hyn o blant 7 mlwydd oed a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd canlynol (siawns cyfrannol) yn sefydlu'r targedau isod ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru:
Cyngor Sir |
2014 |
2025 |
2030 |
2035 |
2040 |
Ynys Môn |
72.1% |
87.6% |
91.7% |
94.9% |
97.4% |
Gwynedd |
97.8% |
99.2% |
99.5% |
99.7% |
99.8% |
Conwy |
25.1% |
47.9% |
58.7% |
70.9% |
82.8% |
Sir Ddinbych |
24.5% |
47.1% |
58.0% |
70.2% |
82.3% |
Sir y Fflint |
5.7% |
14.2% |
20.4% |
30.5% |
46.4% |
Wrecsam |
12.0% |
27.2% |
36.7% |
49.7% |
66.1% |
Powys |
19.3% |
39.6% |
50.4% |
63.5% |
77.4% |
Ceredigion |
74.0% |
88.7% |
92.4% |
95.4% |
97.6% |
Sir Benfro |
19.7% |
40.2% |
51.0% |
64.0% |
77.8% |
Sir Gaerfyrddin |
55.4% |
77.3% |
84.1% |
90.0% |
94.7% |
Abertawe |
14.1% |
31.1% |
41.1% |
54.4% |
70.1% |
Castell-nedd Port Talbot |
18.7% |
38.7% |
49.4% |
62.5% |
76.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr |
8.6% |
20.5% |
28.6% |
40.6% |
57.4% |
Bro Morgannwg |
12.9% |
28.9% |
38.6% |
51.8% |
68.0% |
Rhondda Cynon Taf |
19.9% |
40.5% |
51.3% |
64.3% |
78.1% |
Merthyr Tudful |
11.7% |
26.7% |
36.0% |
49.0% |
65.5% |
Caerdydd |
15.1% |
32.8% |
43.0% |
56.4% |
71.8% |
Caerffili |
18.9% |
39.0% |
49.7% |
62.8% |
76.9% |
Blaenau Gwent |
5.1% |
12.9% |
18.6% |
28.1% |
43.5% |
Torfaen |
10.2% |
23.8% |
32.5% |
45.2% |
61.9% |
Sir Fynwy |
5.8% |
14.5% |
20.7% |
30.9% |
46.8% |
Casnewydd |
4.5% |
11.5% |
16.7% |
25.5% |
40.3% |
Cymru gyfan |
19.4%* |
39.7% |
50.5% |
63.6% |
77.5% |
*mae gwahaniaeth rhwng y ffigyrau yn y tabl uchod a'r canrannau a nodwyd yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg oherwydd bod dadansoddiad y Gymdeithas yn seiliedig ar ragamcanestyniadau poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, sy'n cynnwys plant a addysgir yn y gartref ac yn y sector breifat