Addysg Gymraeg yn Sir Benfro - angen gweithredu

Wedi i Gyngor Sir Penfro ymateb i argymhellion ymgynghoriad diweddar i addysg Gymraeg yn y sir dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith:

“Does dim argymhelliad penodol wedi dod ynglŷn ag opsiynau ar gyfer addysg Gymraeg yn y sir o hyd, dim ond nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad roedd yn rhaid i'r cyngor ei wneud yn gyfreithiol fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. A dydy'r hyn oedd yn y canfyddiadau ddim yn bellgyrhaeddol, nac yn golygu mwy nag y byddai'n haws dewis addysg Gymraeg.

“Mae'n arwyddocaol bod yr ymchwil yn dangos bod 74% eisiau gwella darpariaeth addysg Gymraeg yn yn y sir. O siarad gyda rhieni yn y sir sydd wedi byw yma gydol eu hoes ond heb gael addysg Gymraeg mae wedi dod yn amlwg eu bod yn teimlo iddyn nhw golli mas – o ran gwaith a diwylliant ac nad ydyn nhw am i'r un peth fod yn wir am eu plant. Mae'n glir felly ei bod yn hen bryd i'r cyngor sir weithredu.

“Beth sydd angen yw cynllun clir i symud holl ysgolion y sir ar hyd continwwm tuag at ddod yn ysgolion Cymraeg, fel bod pob disgybl yn y sir, fel ar draws Cymru, yn cael rhywfaint o'u haddysg yn Gymraeg, fel eu bod nhw'n gallu ei defnyddio yn eu gwaith a'u bywyd bob dydd.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud fideos gyda rhieni yn Noc Penfro, maen nhw i'w gweld yma