Brwydr yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd-Môn i barhau
Mae cannoedd o dai wedi cael eu gollwng ar stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod heddiw, fel rhan o wrthdystiad yn erbyn eu cefnogaeth i gynlluniau ar gyfer cannoedd o dai newydd ym Mangor.
Gwrthododd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd y cais i adeiladu'r tai ym Mhen-y-ffridd yn y ddinas yn rhannol oherwydd ei effaith ar yr iaith. Ond, mewn llythyr ym mis Mehefin eleni, cafwyd awgrym clir gan yr Ysgrifennydd Amgylchedd Lesley Griffiths ei bod yn bwriadu caniatáu apêl y cwmni adeiladu i fwrw ymlaen gyda'r prosiect.
Daw'r brotest wedi i gynghorwyr gymeradwyo cynlluniau i adeiladu bron i wyth mil o dai newydd yng Ngwynedd a Môn, er gwaethaf pleidlais gyfartal yn swyddfeydd y cyngor yng Nghaernarfon.
Yn siarad o'r brotest, dywedodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith: "Llanast Llywodraeth Cymru ydy'r holl dai 'ma, felly 'dan ni'n 'dympio'r broblem ar eu stepen drws nhw. Mae angen chwyldro ym meddylfryd Llywodraeth Cymru ac mae angen diswyddo Lesley Griffiths am ei rhan yn yr holl smonach. Mae'n rhaid i ni frwydro i atal y cynlluniau am filoedd o dai ym Môn a Gwynedd sydd wedi eu gwthio drwodd ganddyn nhw ac arweinyddiaeth y cynghorau."
Wrth annerch yr ymgyrchwyr, dywedodd Ieu Wyn ar ran y mudiad Cylch yr Iaith:
"Am wythnos ar Faes yr Eisteddfod rydym mewn môr o Gymreictod, ond fe wyddom beth ydi'r sefyllfa yn ein hardaloedd. Os na lwyddwn ni yn yr ymgyrch i ennill statws llawn i'n hiaith yn y gyfundrefn gynllunio, "Môr o wacter Cymreictod" chwedl Gerallt Lloyd Owen, fydd ein tynged.
"Yn 2011, 57% oedd canran y rhai yn medru'r Gymraeg ym Môn, a 65% yng Ngwynedd. Beth fydd y canrannau yng Nghyfrifiad 2021 ymhen pedair blynedd? Rhaid i'r angen hanfodol i gynnal a chryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau gael blaenoriaeth, a rhaid ymgyrchu i sicrhau bod ein cynghorau sir a Llywodraeth Cymru yn gweithredu mesurau cadarn i gyflawni hynny."
Ychwanegodd y Cyng. Elin Walker Jones: "Brwydr Dafydd yn erbyn Goliath yw hon. Brwydr y dyn cyffredin yn erbyn y drefn."