Adroddiad am Neuadd Pantycelyn: "angen ei weithredu heb oedi pellach"

Wrth ymateb i adroddiad ar yr ymgynghoriad i ddyfodol Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw'n synnu gyda'r canfyddiadau a bod angen eu gweithredu cyn gynted a phosibl.

Dywedodd Jeff Smith, aelod o Gell Pantycelyn:“Ar y cyfan mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu amdano. Mae'r adroddiad yn gwbl glir yn ei argymhellion. Nid yn unig bod yr adroddiad yn galw am ail-agor y neuadd cyn gynted â phosibl ond mae manylion penodol am ofodau cymdeithasol, strwythur, nifer fawr o ystafelloedd gwely, arlwyo ac ati. Rydyn ni'n disgwyl i'r Brifysgol weithredu ar hynny ac yn edrych ymlaen at weld cynlluniau'r Brifysgol ar gyfer y neuadd, ac i glywed ei ymateb i'r adroddiad.”

 

Y stori yn y wasg:

Neuadd Pantycleyn - Gofyn am ei hailagor cyn Gynted â Phosibl - Golwg 360