Aelodau Ifanc yn datgan gwrthwynebiad i bolisiau tai Cyngor Ceredigion

deddf_eiddo.gifAm 9.30 o'r gloch dydd Iau yma (Hydref 30), bydd rhai o aelodau ifanc Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion yn cyflwyno deiseb i Dai Lloyd Evans, Arweinydd y Cyngor Sir. Mae'r ddeiseb yn mynegi gwrthwynebiad i'r polisiau tai a amlinellir yn y Cynllun Datblygu Unedol presennol ac yn galw ar y Cyngor i weithredu strategaeth gyflawn er lles cynunedau Cymraeg y sir.

Noda'r ddeiseb:"Yr ydym ni sydd yn fyfyrwyr ysgol yng Ngheredigion yn galw ar y Cyngor i sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg y sir. Gwrthwynebwn y Cynllun Datblygu Unedol ac yn lle hynny gofynwn i'r Cyngor sefydlu strategaeth ar ran tai,gwaith , trafnidiaeth cyhoeddus a bywyd cymdeithasol er mwyn galluogi ein cenhedlaeth ni i fyw a gweithio yn y Sir."Meddai Gwenno Teifi, aelod o gell Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi ac un o'r rhai fu'n casglu enwau ar y ddeiseb: "Dros yr wythnosau diwethaf, bu rhai o aelodau ifanc Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion yn casglu enwau ar y ddeiseb, er mwyn mynegi gwrthwynebiad i'r syniad o ddyrannu tir ar gyfer hyd at 6,500 o dai. Mae'n hollbwysig ein bod ni fel pobl ifanc yn codi llais, gan mai ni yw dyfodol Ceredigion ac felly ni fydd yn cael ein heffeithio gan bolisiau anghyfrifol o'r fath."Ychwanegodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth CXeredigion o Gymdeithas yr Iaith: "Ym mhob rhan o Gymru mae Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw at bolisiau tai niweidiol, ynghyd a'r modd y maent yn effeithio ar ein cymunedau a'r iaith Gymraeg. O ganlyniad, mae'r ymgyrch yma yng Ngheredigion yn rhan o ymgyrch fawr genedlaethol. Bydd cyfle i bobl o bob rhan o'r wlad i gyfrannu at yr ymgyrch hon yn y rali genedlaethol - Dyfodol i'n Cymunedau - a gynhelir yng Nghaerdydd ar Dachwedd 15."Bydd rali genedlaethol Cymdeithas yr Iaith - Dyfodol i'n Cymunedau - yn cael ei gynnal am 2pm ar Dachwedd 15 yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd. Ymhlith y rhai a fydd yn cymeryd rhan mae'r athro Hywel Teifi Edwards, Alun Ffred Jones AC, Leanne Wood AC a Sian Howys, arweinydd ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith.