Amddifadu plant o addysg Gymraeg.

Howells Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.

Byddwn yno hefyd i ddangos cefnogaeth i Meryl Harrison o Fetws-y-Coed y mae ei merch yn cael ei danfon – trwy orchymyn llys – i ffwrdd o addysg Gymraeg yn Nyffryn Conwy i fyd hollol Saesneg Ysgol Howell.Er mwyn peidio â gwneud y diwrnod agoriadol yn brofiad rhy drawiadol i’r disgyblion ifainc newydd, byddwn yn cyfyngu ein protestwyr i ddirprwyaeth o chwech.DIWEDDARAFFe wnaeth chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (gan gynnwys Meryl Harrison, rhiant y disgybl tan sylw) gynnal piced tua allan i brif fynedfa ysgol Howells am ddwy awr heddiw, ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Dosbarthiwyd taflenni i'r rhieni ac i'r staff, a glynnwyd posteri 'Addysg Gymraeg!' ar gatiau'r ysgol.Fe ddanfonodd prifathrawes yr ysgol y gofalwr at y picedwyr i ofyn iddynt symud gan nad oedd, yn ei geiriau hi, "yn adlewyrchu'n dda ar yr ysgol.", a bygythiwyd alw'r heddlu.Yn ddiweddarach, cynhaliodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal a Meryl Harrison, gyfarfod gyda prifathrawes yr ysgol. Addawodd y brifathrawes y byddai yn trosglwyddo cais Mrs Harrison (bod ei disgybl yn derbyn addysg Gymraeg) i'r Llywodraethwyr, ond nododd na fyddai'r ysgol yn newid polisi oherwydd cwyn gan 1 rhiant! Nododd hi hefyd nad oedd unrhyw rheidrwydd ar yr ysgol i osod y Gymraeg fel cwrs sylfaen, gan ei fod yn ysgol breifat.