Mae mudiad iaith wedi galw am Ddeddf Addysg Gymraeg er mwyn sicrhau bod pob cyngor yn ehangu canolfannau trochi sy’n galluogi plant i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rali ar faes yr Eisteddfod.
Mewn sawl sir mae canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgol. Mewn ardaloedd eraill mae’r canolfannau yn sicrhau bod modd trosglwyddo plant o addysg cyfrwng Saesneg i ysgolion Cymraeg.
Ar hyn o bryd, mae disgwyl i siroedd nodi sut maen nhw’n darparu addysg drochi mewn cynllun, ond does dim rhaid iddynt gynnal canolfan yn eu sir nag agor mwy ohonynt. Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud toriadau i gyllideb y canolfannau o fis Medi eleni ymlaen, er bod galwadau wedi bod i sefydlu canolfannau ychwanegol mewn ardaloedd eraill megis Bangor. Yn ogystal, mae Cyngor Abertawe yn sôn am gau eu canolfan drochi nhw.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ar faes yr Eisteddfod a bydd y Cynghorydd Aaron Wynne a’r rhiant Annest Smith ymysg y siaradwyr yn annerch y dorf. Yn siarad yn y rali, dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:
“Dylai’r canolfannau yma fod yn rhan greiddiol o ddarpariaeth addysg ym mhob pob sir, nid Gwynedd yn unig. Maen nhw’n allweddol er mwyn sicrhau bod plant o bob cefndir, yn enwedig y rhai sy’n symud i mewn o’r tu allan i Gymru, yn cael mynediad llawn at y Gymraeg. Wedi’r cwbl, dim ond drwy agor llawer iawn mwy o’r canolfannau yma y gallwn ni wir sicrhau bod y Gymraeg yn etifeddiaeth i bob un o bob cefndir sy’n byw yng Nghymru.”
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi gweld mwy nag un sir yn bygwth lleihau’r ddarpariaeth. Mae’n bosib iddyn nhw wneud hyn gan nad yw’r canolfannau yn rhan statudol o’r system addysg. Drwy Ddeddf Addysg Gymraeg, gallwn ni sicrhau bod pob un sir yn dilyn yr arfer gorau yn y maes a bod buddsoddiad iddyn nhw allu cyflawni.
“Y canolfannau yma yw'r un llwyddiant sydd wedi bod yng Nghymru o ran cynnwys plant mewnfudwyr - gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r mewnfudwyr. Maen nhw’n gwneud cyfraniad hollbwysig i greu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr.”
Mae’r mudiad wedi ysgrifennu at y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru gan ofyn iddyn nhw ymrwymo i osod dyletswydd statudol ar gynghorau i gynnal neu ehangu canolfannau trochi fel rhan o Ddeddf Addysg Gymraeg.