Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw, a dirwywyd 9 arall £80 yn y man a'r lle ar ol iddynt gadwyno eu hunain i adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon. Buont yno ers 11.30am y bore 'ma yn gweiddi 'Deddf Iaith newydd', ac yn arddangos baneri.
Maent yn gwneud hyn er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, ac er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan a'i lywodraeth at yr argyfwng ym maes y Gymraeg.Y tri ar ddeg heddiw yw Ffion Humphries - Ffostrasol, Ceredigion, Glyn Jones – Treffynnon, Elin Angharad Humphries - Blaenau Ffestiniog, Gwenan Jones - Sir Benfro, Glesni Williams - Porthmadog, Medi Vaughan – Caernarfon, Lowri Evans - Castell Newydd Emlyn, Gwawr Ifan – Efail Wen, Sir Benfro, Gwenno Mererid – Llangefni, Iestyn ap Hywel – Caerdydd, Bethan Williams - Sir Benfro, Steffan Cravos – Llandwrog, Dewi Llyr Snelson – Dinbych.Hyd yn hyn, mae dros 20 o bobl wedi gweithredu fel ran o'r gyfres ddiweddara a 36 yn cynnwys y cyfres o weithredoedd uniongyrchol cyn y nadolig.Daw'r weithred mis cyn cynnal Gŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith a fydd yn dangos cefnogaeth eang i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.Yn ôl Dewi Snelson, Swyddog Maes y Gogledd Cymdeithas yr Iaith, ac un o'r gweithredwyr:"Mae'n eironig iawn fod y llywodraeth yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus dros yr wythnosau nesaf i drafod eu hymgynghoriad nhw ar ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yr hyn sy'n wir y tu ôl i'r ymdrech ffals yw'r ffaith nad yw llywodraeth Lafur y Cynulliad yn lywodraeth sy'n gwrando. Mae consensws rhyng-bleidiol yn bodoli ynglŷn â'r angen i ystyried mathau o ddeddf iaith newydd. Serch hynny, parhau i anwybyddu a wna Rhodri Morgan ac Alun Pugh."Ychwanegodd Catrin Dafydd, Cadeirydd Grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r 13 aelod yn gweithredu heddiw er mwyn hoelio sylw'r llywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith a fyddai'n sicrhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg ac a fyddai'n gosod cynsail ar gyfer cyfres o hawliau yn ymwneud â'r Gymraeg. Byddai'r hawliau hyn yn perthyn i bawb yng Nghymru, boed nhw'n siarad Cymraeg a'i peidio. Mae'n rhaid wrth Gomisiynydd Iaith hefyd, er mwyn sicrhau gweld rheoleiddio cynlluniau iaith."Daw'r weithred yng nghanol cyfnod ymgynghorol ar bapur y llywodraeth ynghylch dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ar Fehefin y 10fed bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Gŵyl Fawr i dynnu sylw at y gefnogaeth at Ddeddf Iaith Newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth gyda nifer o wynebau enwog yng Nghymru yn perfformio ac yn dangos eu doniau dros yr achos.Yn eu plith bydd Gerallt Lloyd Owen a fydd yn darllen cywydd o'i waith fel teyrnged i gyfraniad Eileen Beasley i wleidyddiaeth Cymru. Yno hefyd bydd Ieuan Wyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru ynghyd â cynrychiolwyr o fudiadau blaenllaw yng Nghymru, beirdd, rapwyr bandiau.On-the-spot fines for chain protest - Daily Post - Mai 11, 2006