Arestio Naw Aelod CYI yn Aberystwyth

Cafodd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio prynhawn heddiw (Dydd Mercher) yn dilyn protest dros Ddeddf Iaith y tu allan i fwyty MCDONALDS yn Aberystwyth. Roedd rhai ugeiniau o aelodau'r Gymdeithas wedi ymgasglu tu allan i MCDONALDS cyn i'r naw gael eu harestio. Roedd y naw a arestiwyd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwth.

Dywedodd Rhys Llwyd arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas:"Mae'r gweithredu hwn heddiw yn arwydd fod ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas yn difrifoli ac yn dwyshau. Dros yr wythnosau diwethaf bu'r aelodau yn gweithredu dros Ddeddf Iaith yn Fflint, Caernarfon, Caerdydd ac Aberystwyth. Bydd rhagor o weithredu yn y dyfodol a phenllanw yr holl weithgarwch fydd Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005.""Bwriadwn barhau gyda'r ymgyrchu hwn hyd nes y sicrheir Deddf Iaith fydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru ac yn mynnu ar yr un pryd fod cwmniau preifat fel yr un dargedwyd heddiw yn mabwysiadu polisi dwyieithog."Y naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gafodd eu harestio oedd: Lois Barrar, Elena Mai, Ceri Owen, Branwen Mair, Lowri Larsen, Alaw Rowlands, Catrin Evans, Nia-Meleri a Llio Rhys.Ar hyn o bryd mae'r naw aelod yn dal yn swyddfa'r heddlu, Aberystwyth.Myfyrwyr yn mynd am de i McDonalds! 9:00amBrynhawn heddiw mi fydd aelodau o Gell Cymdeithas yr Iaith Prifysgol Cymru Aberystwyth yn mynd i McDonalds am de! Bwriad yr ymweliad ydy codi'r ymwybyddiaeth o'r diffyg Cymraeg sydd i'w ganfod mewn siopau preifat ledled Cymru. Dyma fydd y cam nesaf yn ymgyrch weithredol Cymdeithas yr Iaith i godi'r ymwybyddiaeth o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Cred y protestwyr fod McDonalds yn enghraifft nodweddiadol o agwedd y sector breifat tuag at y Gymraeg.Nododd Rhys Llwyd, Cadeirydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd:"Nid oes gan McDonalds bolisi dwyieithrwydd cenedlaethol, yr unig beth y ceir ydy ychydig o arwyddion fan hyn fan draw, nid ydy hynny yn rhoi cyfartaledd a thegwch i'r Gymraeg. Fe dargedwyd McDonalds mewn cyfres o brotestiadau flwyddyn union yn ôl, wrth fynd nôl i brotestio flwyddyn yn ddiweddarach, nid yn unig yr ydym yn dangos methiant McDonalds i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ond rydym hefyd yn dangos methiant Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddwyn perswâd ar y sector breifat i gynnig gwasanaethau Cymraeg."Yn yr wythnosau diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi protestio yn y Fflint, Caernarfon, Aberystwyth ac yn y brifddinas.Cadeirydd cell y brifysgol yn Aberystwyth ydy Lois Barrar, fe ddywedodd hi:"Dydy strategaeth bresennol Bwrdd yr Iaith ddim yn gweithio, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni fel cell wedi bod yn targedu cwmnïau sydd yn berthnasol i ni fel pobl ifanc. Rydym wedi bod yn targedu cwmniau fel Orange, Burger King a heddiw McDonalds. Pan aethom ni fel cell i swyddfa'r Bwrdd ddechrau'r flwyddyn nododd Meirion Prys y prif weithredwr fod gan y Bwrdd strategaeth hir dymor ac ar hyn o bryd roedd y Bwrdd yn canolbwyntio ar gwmniau dwr a phethau felly. Rydym ni'n credu fod angen i Fwrdd yr Iaith roi llawer mwy o bwysau ar gwmnïau yn y sector breifat oherwydd cwmniau fel Orange a McDonalds yr ydym ni yn eu defnyddio yn ein bywyd bob dydd, dyna beth sy'n berthnasol i ni fel Cymry Cymraeg ifanc."Yn benllanw i'r ymgyrch hon, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005 i gyflwyno'n gweledigaeth o Ddeddf Iaith newydd. Nod y Gymdeithas yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac y mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith - Meirion Prys Jones - wedi cytuno i ymateb.Stori llawn oddi ar wefan BBC Cymru'r BydLluniau o'r Brotest ar gael yma! Pwyswch ar "Protest McDonalds Aberystwyth, Hydref 2004" ar y bar dewis.