Arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn mynd i adeilad Cyngor Sir Gâr

Amser cinio heddiw mae tîm o arolygwyr Cymdeithas yr Iaith wedi mynd i mewn i bencadlys Cyngor Sir Gaerfyrddin i weld a ydy'r Cyngor ei hun yn arwain y ffordd wrth hyrwyddo'r Gymraeg. Bydd yr arolygwyr yn gofyn i staff yn ystod eu hawr ginio i ba raddau maen nhw'n gweithio yn Gymraeg.
 
Meddai Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin:
“Nid ein bwriad ni heddiw yw tarfu ar waith y Cyngor ond i weld a ydy'r Cyngor yn dal i roi'r argraff eu bod yn Gyngor dwyieithog tra yn gweithio yn Saesneg yn bennaf. Er mwyn i bethau newid rhaid i'r Cyngor fod ar y blaen a dangos y ffordd i bobl y sir.”
 
Daw'r arolwg flwyddyn i'r diwrnod ers i 500 o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith ddod at Neuadd y Sir mewn rali i fynnu camau radical a blaengar gan y Cyngor Sir fel ymateb i ganlyniadau trychinebus y Cyfrifiad yn y sir – a ddangosodd mai yng Nghaerfyrddin y gwelwyd y cwymp mwyaf o ran niferoedd siaradwyr Cymraeg.
 
Parti i Ddathlu gyda Chyngor Sir Gâr
Mae'r Cyngor Sir wedi creu Gweithgor sydd yn edrych ar strategaeth i gefnogi'r Gymraeg a chymunedau sydd yn siarad Cymraeg, ac mae disgwyl iddo adrodd ar ei waith yn hwyrach yn y Gwanwyn. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu parti mawr ar stondin Cyngor Sir Gaerfyrddin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fis Awst er mwyn 'dathlu' strategaeth flaengar y bydd y Cyngor yn ei mabwysiadu i hybu'r Gymraeg.
 
Esboniodd Sioned Elin:
“Bydd llygaid Cymru a thu hwnt ar Gaerfyrddin yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a hwn fydd un o'r digwyddiadau mwyaf a welwyd ar y maes erioed. Mae gyda ni ddigwyddiad ar wefan facebook i hyrwyddo'r parti, gyda dros chwe mis i fynd mae mwy na 200 o bobl wedi nodi eu bwriad i ddod. Rydyn ni'n disgwyl i filoedd o bobl ddod i stondin y Cyngor Sir ar y maes, yn gobeithio'n fawr mai dathlu fyddwn ni. Fel arall bydd mil a mwy o bobl yn gofyn pam.