Arwydd Cymraeg ar orsaf trên Caerdydd - angen Safonau ar frys

Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweithredu ar fyrder ar ddod â Safonau i rym yn y maes trafnidiaeth yn sgil eu llwyddiant i sicrhau bod Network Rail yn newid arwydd uniaith Saesneg ar orsaf yn y brifddinas. 

Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
 
“Rydym wrth ein bodd bod yr ymgyrch wedi llwyddo. Ond rhaid i ni ofyn: pam bod dal rhaid i ni brotestio am arwyddion yn y Gymraeg? Yr oedd y ddeddfwriaeth iaith ddiwethaf i fod i unioni hyn. Mae bron wedi bod yn bum mlynedd ers i’r Mesur gael ei basio, ond mae’r Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru wedi methu’r cyfle i ddefnyddio eu pwerau newydd dan y ddeddfwriaeth. Yn wir, hyd yn oed heb gynnig unrhyw eglurhad i’r cyhoedd, fe gymerodd Comisiynydd y Gymraeg cannoedd o gyrff allan o’r ddeddf gan gynnwys Network Rail, allan o’r gyfundrefn newydd o hawliau ieithyddol. Mae’r methiant rheoleiddio yma yn golygu bod rhaid i ni brotestio er mwyn cael arwyddion Cymraeg sylfaenol mewn gorsaf drenau.  Heb ofynion cyfreithiol cryf, mae pobl yn cael eu gorfodi i brotestio er mwyn cael y mwyaf sylfaenol o hawliau iaith. Er ein bod yn croesawu’r newyddion bod ein protestiadau wedi llwyddo, mae’n hen bryd i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau bod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn hawl i bawb yn y wlad, nid rhywbeth mae rhaid i ni brotestio drosto, drosodd a throsodd."