Banc Lleol y Byd - Ond nid i Benygroes

gwreiddiwch.JPGBydd pentrefwyr Penygroes yn dod gyda'i gilydd yr wythnos nesaf (Medi 22) i brotestio yn erbyn gostyngiad yn oriau'r banc yn y pentref.

Cynhelir y brotest ar ddydd Llun, Medi 22, am 10.30, ar y diwrnod y bydd torri ar gwasanaeth HSBC yn y pentref. Bydd y Banc yn cau ei ddrysau wedi'r bore. Mae Banc HSBC yn Llanberis yn haneru ei oriau ar yr un diwrnod, gyda'r ddwy cangen yn rhannu gweithwyr."Mae'n ironig iawn bod HSBC yn galw ei hun "banc lleol y byd", gyda'r dirywiad yn ei wasanaeth ym Mhenygroes," meddai Angharad Tomos o Gymdeithas yr Iaith, un o'r mudiadau gyda ei gyfrif gyda HSBC sy'n cymryd rhan yn y brotest. "Mae bron ’ 500 o gwsmeriaid o Benygroes - chwarter y pentref - wedi arwyddo'r ddeiseb, a byddwn yn disgwyl dipyn o dorf i brotestio."Bydd y brotest yn rhoi'r ddeiseb i mewn, gyda llythyr i Tony Mahoney,Rheolydd HSBC Cymru, yn gofyn am gyfarfod. Dywedodd yr AC lleol, Alun Ffred Jones, "Mae cadw gwasanaeth o'r math yma yn gwbl hanfodol i ddyfodol cymdeithasol ac economaidd yr adaloedd yma. Yr ydwf wedi ysgrifennu at Reolwr Cymru HSBC yw mynegi fy mhryder am y cwtogi ar y gwasanaeth hwn"."Yn y chwe mis diwethaf, gwnaeth HSBC elw o £3.7 biliwn a llynedd gwnaethant elw o £6 biliwn," meddai Angharad. "Yn amlwg, mae HSBC yn rhoi elw cyn cymunedau."Bydd y llythyr yn galw ar HSBC i adolygu ei benderfyniad, ac i roi ymrwymiad i ddyfodol y gwasanaeth ym Mhenygroes. "Mae gwasanaethau i gefn gwlad mewn sefyllfa fregus iawn," meddai Angharad. "Llynedd, cyhoeddodd Cyngor Defnyddwyr Cymru nad oedd gan 88% o gymunedau cefn gwlad fanc neu gymdeithas adeiladu. Mae'n bwysig iawn na fydd Dyffryn Nantlle yn cael ei ychwanegu at y rhestr hon."