Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr. Dywedodd Glyn Jones, Cadeirydd rhanbarth Clwyd ymdeithas yr Iaith:"Gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan gan gwmni Americanaidd a fyddai'n treblu maint y pentref, dim gwasanaethu'r gymuned. Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn. Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol. System sydd yn rhoi anghenion datblygwyr yn gyntaf yn hytrach nag anghenion y gymuned. Roedd yn drueni na ddaeth dim un o swyddogion y cyngor draw i'r cyfarfod neithiwr i glywed barn y cyhoedd. Mae angen diddymu'r cynllun isranbarthol rhwng swydd Caer a'r Gogledd Ddwyrain a newid y gyfraith fel bod y system gynllunio yn rhoi pobl yn gyntaf."Stori llawn ar wefan golwg360...