Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb yn chwyrn ar ôl cael deall bod drafft diweddaraf Bil y Cwricwlwm – sydd i’w gyhoeddi’n fuan – yn nodi Saesneg fel rhan orfodol o’r cwricwlwm ac yn peryglu dulliau trochi, er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, y llynedd.
Pan gyhoeddwyd y papur gwyn ar y Bil ym mis Ionawr 2019, bu gwrthwynebiad cryf i’r cynnig i wneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddf oherwydd ei effaith niweidiol ar ddulliau trochi. Gorfodwyd tro pedol gan y Llywodraeth a rhoddodd y Gweinidog Addysg sicrwydd pendant ar y pryd y byddai hyn yn newid, rhywbeth a groesawyd yn eang ar draws y sector addysg Gymraeg.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith yn deall mai’r bwriad o hyd ydy gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r Bil, a chynnwys cymal fydd yn golygu bod y Gymraeg a'r Saesneg yn orfodol yn ddiofyn, ond yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion i ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn 7 oed yn eu hysgol nhw.
Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith yr wythnos hon, cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg mai dyma oedd y bwriad, gan ddweud “pe na byddai’r Saesneg yn orfodol yn y Bil, a dim ond y Gymraeg, byddai ffỳs mawr gan yr 80% o’r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg.”
Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder difrifol am y cynlluniau a sylwadau Gweinidog y Gymraeg. Mae’r llythyr yn nodi bod y cynnig o ‘optio mewn’ i’r cyfnod trochi yn golygu byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethol ac yn rhwystro felly unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg.
Yn ôl y llythyr, bydd y Bil yn y ffurf hon yn ‘tanseilio addysg Gymraeg ar draws y wlad ac yn ‘mynd yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth o weithredu un continwwm dysgu’r Gymraeg a’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.’ Cyfeiria’r llythyr hefyd at yr ‘effaith negyddol’ y byddai gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn ei gael ‘ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu'.
Mae’r llythyr yn esbonio “Nid oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg. Mewn gwirionedd, mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol.
“Yn ogystal, yn y cyd-destun ieithyddol presennol, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad...mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.”
Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae cynnig y Llywodraeth i wneud Saesneg yn orfodol yn peri risg sylweddol i addysg Gymraeg. Er gwaethaf addewid y Llywodraeth eu bod nhw’n agored i dynnu gorfodaeth Saesneg o’r Bil os oedd rhesymau da i wneud hynny, ymddengys eu bod am fwrw ymlaen gyda’r cynnig niweidiol hwn gan anwybyddu’r holl dystiolaeth yn ei erbyn. Nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig unrhyw gyfiawnhad addysgol na chyfreithiol dros wneud Saesneg yn orfodol, ac nad oes unrhyw arbenigwr na chorff wedi argymell hyn.
“Mae sylwadau Gweinidog y Gymraeg yn awgrymu taw penderfyniad gwleidyddol yn unig yw hwn, ar sail codi bwganod ac agweddau nawddoglyd tuag at y mwyafrif o bobl Cymru sydd ddim yn siarad Cymraeg ond sydd am weld ein plant yn gadael yr ysgol yn rhugl yn yr iaith.”
Ychwanegodd:
“Mae peryg gwirioneddol y bydd y Llywodraeth yn methu’r cyfle euraidd mae’r cwricwlwm newydd yn ei gynnig i wireddu’r hawl sydd gan bob plentyn i fedru’r Gymraeg a thrwy hyn ei gwneud yn llawer anoddach, os nad yn amhosib, i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cliwich yma i ddarllen y llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Addysg