Mae rhieni wedi apelio i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn achub Ysgol Bodffordd yn Ynys Môn, sydd yn rhif un ar restr y Llywodraeth o ysgolion gwledig Cymru. Heddiw (y 30ain o Hydref) yw diwrnod olaf i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol i gau’r ysgol.
Mae pobl Bodffordd yn teimlo dylai'r Gwenidog Addysg ymyrryd i achub yr Ysgol gan fod Cyngor Sir Fôn yn eu hanwybyddu ar ôl cynnal pedwar ymgynghoriad eisoes.
Achubodd Yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams AC Ysgol Llanbedr, ysgol cyfrwng Saesneg, ger Rhuthun yr wythnos diwethaf.
Dywedai Llinos Roberts, ymgyrchydd a rhiant o Fodffordd:
“Dylai'r gweinidog addysg Kirsty Williams ymyrryd i atal y cyngor rhag cau ysgol wledig hollol Gymraeg a llawn os yw hi'n ymyrryd i achub ysgol wledig Saesneg Llanbedr ger Rhuthun.
“Mae pedwar ymgynghoriad wedi bod, mae’r holl gymuned eisiau cadw’r ysgol ar agor, mae’n adnodd amhrisiadwy i’r gymuned leol ac mae’n ysgol sydd yn orlawn, mae’n ffynnu.”
Dyweda Heledd Williams o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg Rhanbarth Gwynedd a Môn:
“Mae polisi newydd y llywodraeth at ysgolion gwledig yn hollol ddiwerth os bydd Kirsty Williams yn caniatáu cau ysgol Bodffordd. Nid yw'r Cyngor hyd yn oed wedi cadw at yr hen ganllawiau heb son am y canllawiau newydd a amlinellwyd yn y cod trefniadaeth ysgolion. Os na fydd Kirsty Williams yn ymyrryd fel yr Ysgrifennydd Addysg, mae’n gwneud ffars o bolisi’r Llywodraeth a’r holl broses.”