Canolfannau Iaith Gwynedd: Apêl teulu i arweinydd Cyngor

Mae teulu o ardal Dolgellau wedi gofyn am gyfarfod brys gydag Arweinydd Cyngor Gwynedd er mwyn atal toriadau i ganolfannau iaith y sir.

Cafodd Marcus Smith ei drochi yng nghanolfan iaith Llangybi pan symudodd ei deulu o Gaint i Dalysarn, ddechrau’r nawdegau. Mewn llythyr i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, gofynna Annest Smith, gwraig Marcus, am gyfarfod gydag Arweinydd y Cyngor gan ddweud: “Diolch i'r ganolfan yma a'i staff, mae Marcus yn byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn siarad Cymraeg naturiol gyda'i blant. Anhebygol iawn fyddai hyn os na fyddai o wedi mynychu'r ganolfan iaith. Fel y gwyddoch, 'rydym yn deulu uniaith Gymraeg yn y cartref, ac mae Marcus bellach yn rhan o gymuned amaethyddol cefn gwlad Meirionnydd.

“Mae'r canolfannau hyn yn cael effaith hir dymor ar gymaint o bobl a theuluoedd yng Ngwynedd. Maent yn hanfodol i barhad yr iaith yn y sir a thu hwnt. Byddai unrhyw doriadau i'r canolfannau yn niweidiol iawn, ac yn tynnu'n groes i bolisi iaith Cyngor Gwynedd.

Mae mudiadau iaith yn cyd-drefnu protest yn erbyn y toriadau i’r canolfannau ar ddydd Sadwrn 30ain Mawrth ar y Maes yng Nghaernarfon a bydd Annest Smith yn un o’r siaradwyr yn y rali.

Ychwanegodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith:

“Mae profiad Annest a Marcus a’u teulu yn dangos pa mor werthfawr mae canolfannau hyn i’r iaith ac i’n cymunedau. Maen nhw’n newid bywydau pobl ac yn cael effaith bositif eithriadol ar yr iaith, a hynny yn yr hirdymor. Y canolfannau yma ydy un o’r prif lwyddiannau sydd wedi bod o ran cynnwys hwyrddyfodiaid - gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r bobl ifanc sy’n symud i’r ardal. Rydyn ni’n obeithiol y gwnaiff cabinet y cyngor newid ei feddwl cyn gwneud penderfyniad terfynol fis nesaf.”

Disgwylir y gwnaiff cabinet Cyngor Gwynedd benderfyniad terfynol am dynged y canolfannau ar ddydd Mawrth 2il Ebrill.