Canolfannau Iaith Gwynedd: Picedu’r Cyngor

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw  mewn ymgais i atal toriadau i ganolfannau trochi iaith y sir.  

Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019 ymlaen.  

Meddai Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith:

"Rydyn ni’n erfyn ar y Cyngor i ail-ystyried eu cynlluniau i gwtogi'r canolfannau iaith. Maen nhw'n gwneud cyfraniad hollbwysig o ran creu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Yn ymarferol, byddai lleihau darpariaeth yn y canolfannau yma yn tanseilio polisi iaith ysgolion Gwynedd a'r Siarter Ysgolion. Os na fydd modd sicrhau bod hwyrddyfodiaid yn siarad Cymraeg cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgolion lleol, mi fydd profiad addysgol y plant yn diodde a bydd baich annheg ac anghynaliadwy yn cael ei osod ar athrawon. Rydyn ni’n annog siroedd eraill i efelychu llwyddiant y canolfannau yma; y peth olaf rydyn ni eisiau ei weld yw Gwynedd yn israddio’u darpariaeth nhw."