Carchariad am fis i ymgyrchydd iaith

achos-osi-caernarfon.JPGMae ymgyrchydd iaith Gymraeg wedi mynd i'r carchar am fis heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 25) yn sgil gwrandawiad gerbron llys ynadon Caernarfon.Ym mis Ebrill 2008, protestiodd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn erbyn rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Superdrug a Boots, er mwyn dangos nad oedd gwasanaethau Cymraeg digonol ganddynt.Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Cymraeg yn galw am weddnewid y sector breifat sy'n arglwyddiaethu bywydau o ddydd i ddydd, ac yn galw am ddeddf iaith a fyddai'n cynnwys y siopau hyn er mwyn normaleiddio'r iaith Gymraeg yng Nghymru.Ar ôl y ddedfryd dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth:"Roedd Osian wedi gweithredu'n uniongyrchol oherwydd nad oes gan dinasyddion Cymru yr hawl i weld ac i ddefnyddio'r Gymraeg o'u cwmpas. Mae system sydd yn rhoi elw cwmnïau rhyngwladol o flaen hawliau siaradwyr Cymraeg yn gwbl annheg. Nid yw'r cwmniau sydd â diffyg parch affwysol tuag at y Gymraeg yn haeddu iawndal, yn hytrach, nhw sy'n ddyledus i bobl Cymru am wneud yr iaith Gymraeg yn anweledig."

"Mae'r Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i osod yr agenda ieithyddol a mynnu bod cwmnïau mawrion, fel Superdrug a Boots, i ddarparu gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg. Serch hynny, nid fydd gan Llywodraeth y Cynulliad bwerau digonol dros y Gymraeg, hyd yn oed ar ôl i'r Gorchymyn Iaith Gymraeg ddod i rym.""Mae siopau mawr yn anwybyddu barn y cyhoedd sydd yn cefnogi gwasanaethau dwyieithog: mae 76% o'r cyhoedd yn cytuno bod deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig ac 81% yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig hefyd." Does dim un o'r busnesau y gwnaeth Osian ac eraill eu targedu yn cael eu crybwyll o gwbl yn y Gorchymyn Iaith sydd o flaen Senedd San Steffan ac mae hynny, meddai Cymdeithas yr Iaith, yn warthus.Cyn mynychu'r Llys, dywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd:"Dydy'r cwmnïau yr ydym yn eu defnyddio o ddydd i ddydd ddim yn gwneud digon i adlewyrchu natur Gymreig ardal gyda chanran uchel o'r trigolion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Gobeithio bydd fy ngharchariad yn gwneud i bobl eraill sylweddoli pa mor warthus mae'r cwmnïau hyn a chyn lleied o barch mae'r Gymraeg yn ei gael ganddynt. Yr unig beth 'ryn ni'n gofyn i'r cwmnïau mawr ei wneud yw gadael i'r iaith Gymraeg fyw."Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr at Superdrug a Boots yn gofyn am eu hymateb nhw i garchariad Osian Jones.Carcharu Osian am geisio 'gadael i'r iaith Gymraeg fyw' - golwg360.comCarchar i ymgyrchydd iaith - bbc.co.uk/cymruCourt for activist who didn't back down - morningstaronline.co.ukWelsh language campaigner Osian Jones jailed - dailypost.co.ukWelsh-language campaigner jailed for refusing fine - morningstaronline.co.ukWelsh language protester is jailed - walesonline.co.ukLanguage protester's 28 days jail - bbc.co.uk/wales