Carcharor a Phrif Weinidog wyneb yn wyneb

Gwenno Teifi a Rhodri MorganPan ddaw Rhodri Morgan - Prif Weinidog Cymru - i Neuadd Goffa Penparcau i annerch Plaid Lafur Aberystwyth (Nos Fercher 22ain), bydd yn dod wyneb yn wyneb â Gwenno Teifi, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a garcharwyd am bum niwrnod yr wythnos ddiwethaf am ei safiad dros Ddeddf Iaith newydd.

Bwriad Gwenno Teifi yw cyflwyno llythyr i Rhodri Morgan yn ei wahodd i lobi ar Ddeddf Iaith y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei gynnal ar ddydd Mercher Mawrth 22ain. Dywedodd Gwenno:"Fe fyddaf fi ac aelodau eraill o gell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Neuadd Pantycelyn yn aros am Rhodri Morgan tu allan i Neuadd Goffa Penparcau, Aberystwyth nos yfory (Mercher 22ain) gan obeithio manteisio ar y cyfle i gyflwyno llythyr iddo yn ei wahodd i lobi'r Gymdeithas.""Mawr obeithiwn hefyd y bydd Rhodri Morgan yn derbyn y gwahoddiad ac yn dod i'r cyfarfod gan ddweud yno ei fod am gyflwyno Deddf Iaith gryfach i Gymru fel yr addawodd yn San Steffan yn ôl yn 1993.""Ers y Nadolig mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymatal rhag gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn llywodraeth y Cynulliad yn yr ymgyrch Deddf Iaith yn y gobaith y bydd ein cadoediad yn ysgogi’r llywodraeth i'n cyfarfod i drafod deddfwriaeth iaith yn y dyfodol agos."