Mae ymgyrchwyr wedi protestio ar stondin Llywodraeth Llafur Cymru yn erbyn cynlluniau a fyddai, yn eu barn nhw, yn gwanhau hawliau iaith yn yr Eisteddfod heddiw (dydd Gwener, 10fed Awst).
Fe chwistrellodd aelodau Cymdeithas yr Iaith baent ar stondin y Llywodraeth yng nghanolfan y mileniwm yn dweud “Deddf Iaith Wannach? Dim Diolch!”. Roedd yr awdur a’r ymgyrchydd Angharad Tomos a’r Aelod Cynulliad dros Arfon Sian Gwenllian ymysg y siaradwyr yn y rali cyn y weithred ar stondin plaid y Llywodraeth.
Yn siarad wedi'r gwrthdystiad, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae cyfundrefn y Safonau, wedi ei rheoleiddio gan y Comisiynydd, yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad felly mae'n warthus bod y Llywodraeth am droi'r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan. Drwy wneud hyn, mae Llafur Cymru yn amddiffyn busnesau mawrion fel Trago Mills, Iceland a Sports Direct ar draul ein hawliau ni i’r Gymraeg. Maen nhw’n haeddu beirniadaeth lem.
“A dydyn nhw ddim yn gwrando: dim ond 15% o ymatebwyr ymgynghoriad y Llywodraeth ar eu cynlluniau oedd yn cefnogi'r cynnig annoeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. Doedd hynny ddim ym maniffesto'r Blaid Lafur chwaith; does ganddyn nhw ddim mandad o gwbl i wneud hyn.
“Mae angen deddfwriaeth gref er mwyn sicrhau defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat. Welwn ni ddim ffyniant i'r iaith yn y sector breifat os ydyn ni'n dibynnu ar 'ewyllys da' cwmnïau. Mae dibynnu ar ewyllys da a pherswâd eisoes wedi ei dreialu ers chwarter canrif, heb fawr o newid.
“Yn wir, mae cynlluniau Llywodraeth Llafur Cymru i wanhau'r ddeddfwriaeth iaith yn fêl ar fysedd busnesau gwrth-Gymraeg. Yn lle trio pasio Deddf Iaith wan, mi fyddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar gynigion Papur Gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."
Dywedodd Angharad Tomos:
“Mae’r Llywodraeth yma wedi colli ffydd cefnogwyr y Gymraeg yn gyfan gwbl. Yn lle defnyddio'u pwerau presennol i ymestyn hawliau i gael pethau fel ffonau symudol Cymraeg a gwasanaethau ynni, trên a bws yn Gymraeg, maen nhw’n gwastraffu amser ar ymdrech i wanhau ein hawliau iaith. Yn wir, oherwydd penderfyniadau’r Gweinidog mae’n annhebyg y gwelwn ni unrhyw hawliau iaith mewn sectorau newydd tan ar ôl yr etholiadau nesaf.
“Dwi ddim yn deall pam fod Eluned Morgan yn mynnu dilyn agenda o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus. Mae ei phenderfyniad i wrthod ymestyn y Safonau i'r sector breifat yn mynd yn gwbl groes i farn pobl Cymru ac Aelodau Cynulliad. Mae'n gam mawr yn ôl ei bod hi'n sôn am 'ddarbwyllo' busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw'r unig ffordd o gael gwasanaethau Cymraeg o safon.”