Mae caredigion yr iaith wedi cwyno bod ymgynghoriad ar gynlluniau i adeiladu tua wyth mil o dai yn sir Gwynedd ac Ynys Môn yn 'cau pobl allan' wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd yr holl gyfarfodydd cyhoeddus ar y cynllun yn ystod oriau gwaith.
Heddiw (Chwefror 16 2015) mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi beirniadu diffygion yn nhrefniadau cynghorau sir Gwynedd ac Ynys Môn i gynnal ymgynghoriad am y cynllun tai, a’u bod wedi gwrthod cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr er mwyn cael barn trigolion lleol.
Mae Cynllun Adnau'r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn nodi faint yn union o dai fydd yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau ar draws y ddwy sir, yn cychwyn cyfnod o ofyn am farn y trigolion lleol heddiw (Chwefror 16) am gyfnod o chwe wythnos.
Meddai Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd,
“Mae'n boen calon i ni fel ymgyrchwyr sydd yn pryderu am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, nad oes chwarter digon wedi ei gyflawni na'i drefnu gan y ddau gyngor sir er mwyn hwyluso'r drefn i drigolion lleol Gwynedd a Môn fedru lleisio eu barn am y Cynllun. Mewn difrif calon, dyma Gynllun sydd â'r potensial i weddnewid ffabrig ieithyddol y ddwy sir, felly mae'n rhaid gofyn, a ydi trefnu ambell i gyfarfod yma ac acw a gosod copïau caled o'r Cynllun mewn llyfrgelloedd, yn ddigon o gyfle i bobl gyfranogi yn yr ymgynghoriad?”
Ychwanegodd,
“Ddechrau’r flwyddyn, mi oedd ein galwadau ni'n glir ynglŷn â sut y dylai’r ddau gyngor sir drefnu ymgynghoriad cynhwysfawr a fyddai’n sicrhau bod y nifer mwyaf posib o drigolion y ddwy sir yn cyfranogi. Mi wnaethon ni ofyn am drefniant lle'r oedd digon o gopïau caled ar gael i bwy bynnag oedd yn mynnu cael copi. Mi wnaethon ni ofyn am drefniant lle'r oedd rhannau perthnasol o’r Cynllun yn cael eu gosod mewn mannau canolog ym mhob cymuned sydd wedi ei chynnwys yn y Cynllun, a hefyd bod y ddau gyngor sir yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus ym mhob ardal er mwyn arfogi ein cymunedau i ymateb.”
“Yn anffodus mae ymateb y ddau gyngor yn siomedig iawn. I ddechrau, bydd copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, ond ni fydd hawl gan neb i fynd â'r copïau hynny gyda nhw er mwyn craffu ar y Cynllun. Bydd copïau caled ar gael yn swyddfeydd y ddau gyngor, ond unwaith eto ni fydd hawl gan y cyhoedd i fynd â'r copïau hynny oddi yno.”
“Ateb y ddau Gyngor ydi bod gweld copïau electroneg ar y we yn ddigonol. Rydym yn cwestiynu’r canfyddiad hwnnw, ac yn mynnu bod rhaid trefnu bod digon o gopïau caled o’r Cynllun llawn, ynghyd â’r rhannau perthnasol i’r cymunedau unigol, ar gael i bawb sydd yn dewis derbyn copi, a hynny mewn mannau hwylus a chanolog i'r cymunedau sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun.”
Meddai Ben Gregory, aelod o bwyllgor yr ymgyrch,
“Mae’r ddau gyngor sir wedi anwybyddu ein cais rhesymol iddynt wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael cyfle teg i gyfranogi yn yr ymgynghoriad. Wedi’r cwbl, bydd y Cynllun yn effeithio’n uniongyrchol ar drigolion ein cymunedau. Dim ond mewn wyth canolfan yng Ngwynedd a Môn y bydd sesiynau galw i mewn yn cael eu cynnal, er bod y Cynllun yn effeithio ar gyfanswm o 115 o gymunedau. Hefyd, dim ond yn ystod y dydd y cynhelir y sesiynau. Does yr un sesiwn wedi ei drefnu gyda’r nos ar ôl 6 o’r gloch y nos. Pwy mewn difrif calon sydd yn meddwl bod hyn yn ddigonol? Ai bwriad cynghorau sir Gwynedd a Môn felly ydi casglu barn yr henoed a'r di-waith yn unig? Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn un o ddiffygion amlwg yr ymgynghoriad. Rydym yn mynnu bod cyfarfodydd cyhoeddus ym mhob ardal sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun yn cael eu trefnu ar fyrder, a hynny ar amser cyfleus i'r cyhoedd, ac nid ar amser cyfleus i swyddogion cyflogedig y cyngor.”
“Nid oes gennym unrhyw ddewis, felly, ond trefnu ein bod ni fel mudiad yn ceisio arfogi pawb i ymateb i'r Cynllun, a hynny drwy gychwyn ein hymgyrch e-bost ein hunain, ac mi fyddwn ni'n annog pawb yn ystod yr wythnosau nesaf i ymateb yn y modd hwn.”
“Os na fydd trefniant gwell mewn lle yn fuan, ni fydd gennym fel mudiad unrhyw ddewis ond mynnu ein bod yn cael siarad yng nghyfarfodydd llawn cynghorau sir Gwynedd ac Ynys Môn pan fydd y cynllun yn dod gerbron y ddau gyngor, er mwyn inni gael cyfle i fynegi ein cwynion am drefniadau annigonol a chwbl anfoddhaol yr ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn hefyd yn cyflwyno ein cwynion ynghylch diffygion yr ymgynghoriad i Arolygiaeth Gynllunio y Cynulliad.”