Cau Ysgol Llangynfelyn

Wrth ymateb i benderfyniad Cyngor Ceredigion i gau Ysgol Llangynfelyn dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni'n rhannu tristwch rhieni, plant a chymuned Llangynfelyn ac yn llawn edmygedd o'u dyfalbarhad wrth ymgyrchu. Mae pwyslais y cyngor ar 'lefydd gwag' mewn ysgolion ac ar gost o hyd - yn hytrach na gwerth yr ysgol i'r gymuned, rydyn ni wedi'n siomi bod y cyngor, eto, yn dangos mor ddi-ddychymyg ydyn nhw, wrth gau ysgol arall."Byddwn ni'n cynnal rali genedlaethol yng Nghaerdydd fis Chwefror flwyddyn nesaf er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd addysg Gymraeg i bawb er mwyn creu Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae Cyngor Ceredigion heddiw wedi rhoi enghraifft arall o'r angen i ymgyrchu dros addysg Gymraeg i bawb, yn eu cymuned."

Y stori yn y wasg:

Gwefan BBC Cymru

Golwg 360