Cau Ysgolion Gwynedd: Cwestiynu ymgynghoriad y Cyngor

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu diben prosesau ymgynghorol Cyngor Gwynedd ynghylch dyfodol ysgolion pentrefol Gymraeg yn dilyn argymhelliad arall i gau Ysgol y Parc.Ddydd Iau (24/2), bydd Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor yn ystyried argymhelliad y dylid parhau gyda'r bwriad i gau Ysgol y Parc yn ymyl Y Bala ym Medi 2012. Cynhwysir yr argymhelliad mewn dogfen 138 o dudalennau a osodir o flaen aelodau'r Pwyllgor yn dilyn ymgynghoriad statudol a ddaeth i ben ar y 4ydd o Chwefror.Mae'r Gymdeithas yn amau fod swyddogion wedi cyfansoddi'r adroddiad yn bell cyn diwedd y cyfnod ymgynghori, gan ei wneud yn ymarfer gwag.Mae llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis, yn gofyn :"Derbyniwyd degau o ymatebion i ddogfen ymgynghorol y Cyngor am ddyfodol Ysgol y Parc, gan gynnwys ymateb manwl gan Gymdeithas yr Iaith a redodd i rai miloedd o eiriau. Ydyn ni i fod i gredu fod y swyddogion wedi llwyddo o fewn 10 niwrnod o waith i ddadansoddi'r holl ymatebion, gwerthuso'r holl syniadau a godwyd, trafod eu casgliadau a sgrifennu adroddiad 138 o dudalennau ? Mae'n amlwg fod y casgliad wedi'i wneud, a'r rhan fwyaf o'r adroddiad wedi'i sgrifennu, yn bell cyn diwedd y cyfnod ymgynghori. Beth yw diben ymgynghoriad o'r fath ? "

"Mae gyda ni brawf na chafodd yr ymatebion eu hastudio'n fanwl gan y swyddogion gan nad ydynt hyd yn oed yn cyfeirio at y ddau brif wrthwynebiad a gododd Cymdeithas yr Iaith mewn papur manwl a gyflwynwyd rai dyddiau'n unig cyn diwedd yr ymgynghoriad. Cwynodd y Gymdeithas na bu ystyriaeth i un opsiwn a fuasai wedi ateb holl bryderon y Cyngor - sef creu Ffederasiwn Penllyn integreiddiedig o'r ysgolion pentrefol a'r Ysgol Gydol Oes newydd yn y dref. Buasai hyn yn creu llawer mwy o arbedion ariannol, yn rhoi sicrwydd i'r holl ysgolion pentrefol, ac yn cryfhau cais y Cyngor am fuddsoddiad yn nhref Y Bala trwy greu cynllun arloesol newydd trwy gonsensws. Nid yw ymateb y Cyngor yn cyfeirio at y model hwn o gwbl gan ymgyfyngu i ddilorni model ffederasiwn o'r ysgolion bach yn unig."Eto, nid yw adroddiad y swyddogion yn cyfeirio o gwbl at yr Astudiaeth Achos a gyflwynwyd gan y Gymdeithas yn dangos sut yr oedd cau ysgol yng nghanol pentref wedi tanseilio o fewn degawd cymuned Gymraeg gyffelyb o golli ffocws y bywyd ifanc. Yn wir os na all cymuned 90% Cymraeg yn Y Parc - sydd ag ysgol/canolfan gymunedol integreiddiedig - argyhoeddi Cyngor Gwynedd o werth yr ysgol, ni bydd unrhyw cymuned arall yn gallu llwyddo. Ffars fydd yr Asesiadau Ardrawiad Cymunedol, ac yn ffynhonnell incwm yn unig i ymgynghorwyr."Wrth gyfeirio at y bleidlais yn y Pwyllgor Ddydd Iau, dywed Mr Ffransis,"Ni byddai cau'r ysgol yn newid iaith y stafell ddosbarth, ond dylai aelodau'r Pwyllgor Craffu fod yn ymwybodol eu bod yn pleidleisio dros gynnig i danseilio un o gymunedau gwledig Cymraeg cryfaf y sir."