Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced Dydd Sadwrn tu allan i siop Morrisons yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg. Mae Ieuan Wyn Jones AC hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth i Mr David Evans, a gafodd ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn ei waith ym Morrisons Caergybi.Mae Mr David Evans, sydd bellach wedi gadael ei swydd oherwydd na allai ddioddef y sefyllfa rhagor, wedi cysylltu â'i undeb sef 'Union of Shop and Distributive and Allied Workers' ac maen nhw'n cynnal ymchwiliad i'r mater ar ei ran.Dywedodd Osian Jones, Swyddog Maes y Gogledd (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg):"Mae'n gwbl sarhaus fod Morrisons yn amddifadu eu staff rhag eu hawliau dynol. Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth greu mesur iaith fydd yn cynnwys yr hawl i weithwyr weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu bydd achosion fel hyn o rwystro'r Gymraeg yn codi eto.""Galwn ar y Llywodraeth i drosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg i Gymru fel bydd y Llywodraeth yn gallu amddiffyn urddas unigolion fel David Evans yn y gweithle."
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Rali Fawr yng Nghaerdydd ar Fai 16eg yn galw am drosglwyddo pwerau deddfu llawn dros y Gymraeg o San Steffan i Gaerdydd, ac yn siarad bydd Adam Price AS, Angharad Mair (Wedi 7), Hywel Teifi Edwards a Catrin Dafydd.