Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei bod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf newydd Cymru sy'n digwydd yng Nghaerfyrddin y penwythnos hwn. Cynhelir Gwyl Macs ar faes y Sioe Nant y Ci ger Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 1/9 a Dydd Sul 2/9.
Bydd y miloedd a ddisgwylir yno am ddiwrnod neu i wersylla am y penwythnos yn cael mynediad at 5 llwyfan a llawer o weithgareddau eraill fel arddangosfeydd sglefyrddio. Ar y brif lwyfan bydd bandiau Cymreig fel Geraint Jarman, Genod Droog a Swci Boscawen yn ymuno â Plan B ar y Dydd Sadwrn a Meic Stevens, Radio Luxembourg a Zabrinski (yn eu gig olaf oll) yn ymuno gyda'r Magic Numbers ar y Dydd Sul.Bydd y Gymdeithas yn trefnu'r llwyfan acwstig gan gyflwyno dau ddwsin o fandiau Cymraeg mewn adloniant di-dor dros y deuddydd. Bydd y rhestr ar gyfer Dydd Sadwrn yn cynnwys Gai Toms, Fflur Dafydd, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwibdaith Hen Fran, Mattoidz, Gwyneth Glyn a Brigyn a rhestr Dydd Sul yn cynnwys Genod Droog, Supergene, Derwyddon Doctor Gonzo, Mr Huw a Pwsi Meri Mew.Esboniodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o fod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf cyffrous Cymru. Bydd y digwyddiad yn rhoi Caerfyrddin ar y gylchdaith Ewropeaidd o Wyliau Mawr gan hyrwyddo diwylliant Cymraeg cyfoes ac yn denu artistiaid cydwladol i'r rhan hon o Gymru."Ewch at www.gwylmacsfest.com am yr amserlen llawn a'r holl wybodaeth ychwanegol.