Ceredigion yn bwrw 'mlaen â'u cynllun

Ymddengys bod y Cyngor Sir a'r ymgynghorwyr eisoes wedi rhoi eu bryd ar ysgolion ardal mawr 3-19 oed yn ardaloedd Llandysul a Thregaron, a'u bod yn rhoi'r cyfrifoldeb a'r baich o gyfiawnhau opsiynau eraill yn nwylo'r rhieni a llywodraethwyr. Gallai'r cynllun arwain at gau nifer fawr o ysgolion pentref a hyd yn oed ysgol gynradd Llandysul ei hun.Meddai Angharad Clwyd, sy'n Gadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith ac yn rhiant yn ysgol gynradd Llandysul:"Byddai'n eironig pe byddai'r ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgol Dyffryn Teifi a Thregaron, yn gyfrifol am ddinistrio'r cymunedau Cymraeg sydd wedi darparu eu disgyblion dros y genhedlaeth ddiwethaf. Dylai'r broses hon fod yn ddadansoddiad agored o'r holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys yr opsiwn mwy blaengar o fath newydd o ffederasiwn rhwng Ysgolion Dyffryn Teifi ac Ysgol Uwchradd Tregaron â'r ysgolion sy'n eu bwydo. Byddai hyn yn creu uned addysgol gref ond byddai hefyd yn sicrhau y gellid cynnal presenoldeb yn yr holl gymunedau. Cyfrifoldeb yr ymgynghorwyr yw hi i gyflwyno manylion goblygiadau'r opsiwn hwn yn ogystal â modelau eraill posibl, yn hytrach na disgwyl i rieni a llywodraethwyr, nad ydynt yn cael eu talu i gwblhau'r gwaith, wneud hynny, fel awgrymwyd mewn cyfarfod cyhoeddus."