Chwalu’r Consensws

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau gwybodaeth heddiw sy'n chwalu honiad arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, fod consensws gwleidyddol ynghylch eu strategaeth gontrofersial i geisio cau bron bob ysgol sydd â llai na hanner cant o blant yn y sir. Mewn ymateb i'r Gymdeithas, dywed Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol eu bod yn gwrthwynebu'r strategaeth.

Dywed Sioned Elin (cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin),"Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu'r gwrthwynebiadau hyn. Camgymeriad mawr fyddai i'r Cyngor Sir gymeradwyo'r strategaeth yn eu cyfarfod ar Ragfyr 8ed yn wyneb gwrthwynebiad mawr. Heriwn eto'r Cyngor Sir i gychwyn yn hytrach 6 mis o ymgynghori cyhoeddus trwy'r sir er mwyn sefydlu beth yw ewyllys y bobl cyn dod i benderfyniad. Dyw hi ddim yn ddigon da dweud y byddant yn ymgynghori am fanylion cynigion pendol i gau ysgolion - mae angen trafodaeth am holl gyfeiriad eu strategaeth, a hynny ledled y sir."Safbwynt y Ceidwadwyr'Dw i ddim yn cefnogi Cynllun Sir Gar ond 'di ni ddim wedi cael cyfle i gael trafodaeth gyda'r Cyngor eto. Mae polisi y Ceidwadwyr i gadw ysgolion bach wledig bob tro mae'n bosib. 'Dw i wedi gofyn cwestiwnau yn y Cynulliad yn barod ond doedd y Gweinidog ddim yn fodlon i ateb - fel arfer. Bydd llawer o ddwr rhedeg o dan y bont cyn i'r cynllun hwn dod i'r gwirionedd.Glyn Davies (AC Rhanbarthol - Canol a Gorllewin Cymru)Safbwynt Plaid CymruMae Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r polisi unffurf newydd o gau bron a bod pob ysgol â llai na 50 o blant, ac yn gwrthwynebu niweidio sawl ysgol fwy gyda chynigion i gau. Mae'n rhaid i addysg ein plant fod yn ganolog i bob polisi newydd. Rhaid cydnabod record addysgol ardderchog Sir Gâr a bod hyn o ganlyniad yn rhannol i'r cysylltiad agos gyda'r gymuned leol y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu. Gall y cysylltiad hwn gael ei golli gyda chau ysgolion. Felly, dylid ystyried unrhyw gynigion yng nghyswllt y gymuned mae'n gwasanaethu a gyda chydsyniad y gymuned honno.Ni ddylid cael polisi unffurf ar gyfer pob ysgol fel y mae'r weinyddiaeth Llafur/Annibynol yn ei gynnig yn eu Strategaeth Moderneiddio Addysg. Nid yw Plaid Cymru yn dweud NA i gau unrhyw ysgol ar unrhyw adeg. Ond rhaid ymchwilio i opsiynau eraill yn gyntaf. Y mae'n anffodus fod y Cynllun Moderneiddio Addysg yn anwybyddu'r opsiwn o ffedereiddio, trefniant sy'n gweithio'n llwyddiannus mewn rhai rhannau o Sir Gâr. Os penderfynir nad oes posib cynnal ysgol, yna dylid gosod y strwythurau a'radnoddau yn eu lle i alluogi adfywiad cymunedol.Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr angen am adnoddau ychwanegol ac yn croesawu'r buddsoddiad ychwanegol a gynigir ar gyfer ein hysgolion cynradd ac eilradd. Er hynny, nid arian ddylai fod y prif ystyriaeth y tu ol i'r cynllun addysg newydd. Ansawdd ein haddysg, ansawdd bywyd y disgyblion ac ansawdd bywyd ein cymunedau ddylai fod flaenaf.Neil Baker (Arweinydd Grwp Plaid Cymru Cyngor Sir Gâr)