Cofeb i goffáu sefydlu'r Gymdeithas

Fe ddaeth ymgyrchwyr iaith ynghyd i goffáu sefydlu Cymdeithas yr Iaith dros hanner can mlynedd yn ôl drwy ddadorchuddiad plac ym Mhontarddulais heddiw (Dydd Sadwrn, 9fed Mawrth).

Arweiniwyd y digwyddiad gan gadeirydd presennol y mudiad Robin Farrar, ynghyd ag un o sylfaenwyr y Gymdeithas, Gareth Miles, yr awdur ac ymgyrchydd Angharad Tomos a’r cynghorydd tref Eifion Davies. Sefydlwyd y Gymdeithas yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais ddydd Sadwrn Awst y 4ydd 1962 fel ymateb i her a rhybudd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn gan Saunders Lewis y byddai’r iaith Gymraeg yn marw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif oni fyddid yn mabwysiadu dulliau chwyldroadol.


 

Bu Heulwen Beasley, aelod o’r teulu o Langennech a aberthwyd lawer dros y Gymraeg a ysbrydolodd lu o ymgyrchwyr iaith, yn bresennol hefyd. Pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol gan ‘The Rural District Council of Llanelly’ yn y 1950au, anfonodd Eileen Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael. Yn y dadorchuddiad, talodd Angharad Tomos, yr awdur ac ymgyrchydd iaith, deyrnged i Mrs Beasley:  

“Wrth sgwennu i gwyno at Gyngor Llanelli, arweiniodd safiad Eileen Beasley at ysbrydoli criw ifanc o bobl. Daethant ynghyd ym Mhontarddulais ym 1962 a galw eu hunain yn Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. A dyna wreiddiau un o fudiadau protest pwysicaf Ewrop ac un o'r rhai sydd wedi para hwyaf.”

“Pan fynnodd Llanelli ymddwyn yn gwbl warthus a gyrru'r beili i'r tŷ, byddwn wedi ildio. Beth wnaeth Eileen? Eu herio... Wedi i saith mlynedd fynd heibio a phan oedd yr ystafell fyw yn gwbl wag, dwi'n credu y byddai'r cryfaf yn ein mysg wedi rhoi'r gorau iddi. Daliodd Eileen Beasley ati. Gwrthdodd ddigalonni. Wedi wyth mlynedd, cafodd Bapur Treth yn Gymraeg.

“Dyna ddylai ein hysbrydoliaeth fod heddiw. Mae'n ddyddiau tywyll ar y Gymraeg. Doedd dim i godi ein calon gyda ffigyrau'r Cyfrifiad. Mae'r Gweinidog wedi gwrthod pob un o argymhellion y Comisiynydd Iaith. Y neges heddiw ydi peidiwn a digalonni. Ddaru Trefor ac Eileen Beasley ddim. Yn unigrwydd eu safiad, ddaru nhw ddim ildio. Eneidiau styfnig sydd wedi cadw'r fflam i fynd. Tro nesaf rydych chi wedi blino, yn teimlo'n wan a diobaith, heb fawr o amynedd i sgwennu'r llythyr hwnnw o gwyn neu neilltuo awr i fynd i'r rali nesaf – cofiwch Trefor ac Eileen Beasley. Gadewch iddynt barhau i'n hysbrydoli.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

Ers sefydlu’r Gymdeithas rydan ni wedi brwydro dros gymdeithas lle mae pawb yn byw yn Gymraeg. Rwan, rydan ni’n wynebu heriau newydd i’r rhai pan benderfynodd grŵp o bobl ifanc bod angen mudiad i flaenoriaethu’r Gymraeg. Mae’n darlith ddiweddar, Tynged yr Iaith II, yn cydnabod hynny: allwn ni ddim fforddio i’r Gymraeg droi yn iaith yr ysgol yn unig, mae angen iddi fyw yn ein cymunedau. Mae angen popeth i fod yn Gymraeg er mwyn i bobl allu byw yn Gymraeg.

“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn datgelu’r argyfwng sy’n wynebu’r iaith, ond nid oes argyfwng yn ein calonnau - calonnau’r di-Gymraeg a’r Cymry Cymraeg - gyda thân yn ein bolâu, a ffocws clir yn ein pennau, gallwn ni wneud gwahaniaeth. Mae’n Maniffesto Byw yn canolbwyntio ar hynny, gyda chynllun manwl dros dai, iaith a gwaith.”

Dyma oedd y digwyddiad olaf mewn cyfres, oedd yn cynnwys gig Hannercant a rali ar bont Trefechan yn Aberystwyth, i ddathlu hanner can mlynedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.