Condemio Morrisons Bangor

Yn ymateb i'r stori fod presgripsiwn wedi ei wrthod gan fferyllfa Morissons Bangor am ei fod yn Gymraeg, dywedodd Osian Jones, Swyddog Maes y mudiad yn y gogledd:

“Mae'r weithred hon gan Morrisons yn warthus, ac yn dangos unwaith eto bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn eilradd yng Nghymru. Er holl siarad gwag y Llywodraeth, mae hyn yn dangos gwir realiti'r sefyllfa i ddefnyddwyr y Gymraeg o ddydd i ddydd. Fel tad i fachgen ifanc fy hun, dwi'n gynddeiriog o glywed bod teulu wedi cael gwrthod presgripsiwn gan siop Morrisons ym Mangor, am fod y presgripsiwn hwnnw wedi ei ysgrifennu'n Gymraeg. Sefyllfa, o be dwi’n ddeall, a allai fod wedi peryglu bywyd.”

“Rydym yn disgwyl dim llai nag esboniad llawn gan y cwmni, a datganiad gan y Prif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg yn nodi bod ymddygiad cwmni Morrisons yn hollol annerbyniol. Cyhoeddwyd set gyntaf o safonau iaith y Llywodraeth wythnos yma, ac mae’r achos hwn yn atgyfnerthu ein dadleuon bod rhaid i'r sector breifat yng Nghymru wynebu eu dyletswyddau i siaradwyr Cymraeg, er mwyn creu cymdeithas lle na fydd siaradwyr Cymraeg yn teimlo fel dinasyddion eilradd yn eu gwlad eu hunain.”