Condemnio Cyngor dros ddiffyg ysgol Gymraeg yn Grangetown

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad cabinet Cyngor 
Caerdydd i fwrw ymlaen â chynllun i beidio â sefydlu ysgol Gymraeg i Grangetown, 
Caerdydd fel un ‘cywilyddus’. 

Daeth tua 50 o ymgyrchwyr lleol i biced tu allan i gyfarfod cabinet y cyngor 
heddiw yn sgil eu cynlluniau i dorri addewid i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg 
newydd yn Grangetown. 

Mae’r manylion, a fydd nawr yn mynd allan i ymgynghoriad ym mis Medi, yn cynnwys 
cynlluniau i adeiladu nifer o ysgolion Saesneg yn y ddinas ond i beidio agor 
ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i Grangetown fel addawyd. 

Dywed Euros ap Hywel, Swyddog Maes y De Cymdeithas yr Iaith: “Roedd agwedd 
aelodau’r cabinet yn gwbl gywilyddus heddiw. Dyn nhw ddim yn ymddangos unrhyw 
gydymdeimlad i’r rhieni na’r ymgyrchwyr a brotestiodd. Roedden nhw’n gwbl 
anwybodus ac yn dangos diffyg parch llwyr wrth drafod y materion. Ni wnaeth y 
cabinet ymateb i lythyron ac ebyst niferus y cyhoedd. Mae’r Gymraeg yn rhywbeth 
a ddylai berthyn i bawb a byddai’r Cyngor, drwy dorri ei addewid, yn rhwystro 
cenedlaethau o blant rhag cael y gallu i fyw yn Gymraeg. Dylai fod ysgol Gymraeg 
leol i bob cymuned yn y ddinas.” 

Ychwanegodd: “Mae addysg Gymraeg yn rhoi sylfaen gref i blant a phobl ifanc allu 
byw a gweithio yn Gymraeg wedi iddyn nhw adael yr ysgol - a sicrhau fod y 
brifddinas yn dod yn un Gymraeg drwyddi draw. Fwy nag erioed, mae angen 
sicrhau’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghaerdydd, beth bynnag eu cefndir.”