Condemnio polisi iaith Gwesty ar Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio Gwesty Carreg Môn ar Ynys Môn wedi i'r stori dorri eu bod yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg yn y gweithle.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr ydym yn condemnio yn llwyr bolisi'r gwesty. Mae gwrthod yr hawl i staff siarad Cymraeg yn rhywbeth na ellir ei oddef ac yn mynd yn gwbl groes i'r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. Os yw'r Gymraeg i oroesi yn yr unfed ganrif ar hugain mae'n rhaid sicrhau fod gan bawb yr hawl i'w defnyddio yn y gweithle."Gwesty'n gwahardd staff rhag siarad Cymraeg - Golwg360 - 14/04/2011Gwahardd staff rhag siarad Cymraeg - BBC Cymru - 14/04/2011Anglesey hotel bans kitchen staff from speaking Welsh - BBC Wales - 14/04/2011Anglesey hotel bans kitchen staff from speaking Welsh - Daily Post - 14/04/2011