Condemnio ysgol heb ymweliad

Rydym wedi beirniadu adroddiad a gyflwynwyd i Gyngor Sir Ceredigion sydd yn argymell cau ysgol bentref Gymraeg heb fod awdur yr adroddiad wedi ymweld â'r ysgol na siarad ag unrhyw un sy'n gysylltiedig yn benodol gyda'r ysgol.
 
Mae adroddiad ymgynghorydd annibynnol ar addysg yng ngogledd Ceredigion wedi argymell fod cau Ysgol Llangynfelyn (Taliesin) ac Ysgol Cwmpadarn (Llanbadarn). Ymwelodd awdur yr adroddiad â 12 ysgol wrth baratoi'r adroddiad, ond ni ymwelodd ag Ysgol Llangynfelyn. Ni chysylltodd chwaith ag unrhyw lywodraethwr na rhiant o'r ysgol. Yr unig gyswllt oedd gyda phrifathro'r 3 ysgol yn y cylch y mae Ysgol Llangynfelyn yn rhan ohono. Bydd tynged yr ysgol yn awr yn cael ei benderfynu mewn cyfarfod o Banel Adolygu Addysg Cyngor Ceredigion brynhawn fory (Mawrth 10/2). Bydd argymhelliad y Panel Adolygu wedyn yn mynd at gyfarfod o Gabinet y Cyngor a all benderfynu mynd at ymgynghoriad statudol ar fwriad o gau'r ysgol.
 
Dywedodd Bethan Williams "Bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cyfarfod y Panel Adolygu gyda rhieni a llywodraethwyr Ysgol Llangynfelyn heddiw. Mae'n warthus fod yr adroddiad yn argymell cau ysgol heb hyd yn oed ymweld â'r safle. Mae profiad yn dangos nad yw Cyngor Ceredigion braidd byth yn newid unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ymgynghori, acfelly mae'n bwysig iawn fod y Panel Adolygu'n gwrando'n fanwl ar achos y pentrefwyr.
 pentrefwyr.
 

Ychwanegodd "Fel cymdeithas rydyn ni'n gweld y byddai effaith niweidiol difrifol ar addysg Gymraeg yn yr ardal, ac mae hyn yn eironig gan mai un o fwriadau'r adroddiad oedd argymell sut i gryfhau addysg Gymraeg. Mae llawer o fewnfudwyr Saesneg ymhlith rhieni Ysgol Llangynfelyn a'r ysgol yw eu man gyswllt gyda iaith a diwylliant y wlad y maen nhw wedi ymgartrefu ynddi. Os caeir yr ysgol, bydd llawer o'r rhieni di-Gymraeg yn mynd â'u plant at ysgol Saesneg yn Aberystwyth neu'n eu haddysgu adre. Gall fod colled o 20 o ddisgyblion i addysg Gymraeg"