Croesawu camau i Gymreigio Bwrdd Iechyd, ond angen newid sylfaenol

Yn dilyn cyfarfod agored i drafod darpariaeth iechyd yn Gymraeg yng Nghaerfyrddin mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu camau i Gymreigio Bwrdd Iechyd Hywel Dda gan bwysleisio bod angen newid meddylfryd yn yr hirdymor.

Yn ystod y cyfarfod, esboniodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y camau mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd i Gymreigio'r gwasanaeth iechyd. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth iaith, dosbarthu adnoddau i annog staff i ddechrau sgyrsiau'n Gymraeg, cefnogi staff i ddysgu Cymraeg, a'u bwriad i benodi tiwtor Cymraeg i fagu hyder staff i ddefnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n falch bod y Bwrdd Iechyd yn cefnogi staff yn ariannol i gael gwersi Cymraeg, a'u bod wedi hysbysebu mwy o swyddi gyda'r Gymraeg yn hanfodol yn ddiweddar. Maen nhw'n bethau da ar gyfer y tymor byr. Er hynny, gan nad yw cleifion yn aml mewn sefyllfa i ofyn am wasanaeth Cymraeg, mae'n bwysig bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig yn rhagweithiol, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar y claf i ofyn amdano. Er mwyn i hynny ddigwydd mae angen newid sylfaenol fel nad yw'r Gymraeg yn rhywbeth ymylol mewn sefydliad Seisnig. Gobeithiwn barhau i gyd-weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i wneud hynny."

Cafwyd trafodaeth dan arweiniad arbenigwyr ym maes iechyd gan gynnwys Awen Iorwerth o ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd, Dr Dilys Davies sydd wedi gwneud ymchwil i bwysigrwydd y Gymraeg wrth drafod iechyd a'r Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd. Clywyd profiadau cleifion, staff presennol a rhai sydd wedi ymddeol yn ddiweddar hefyd.
Wrth drafod hyfforddiant i fyfyrwyr, nodwyd bod rhai prifysgolion yn Lloegr yn rhoi mwy o flaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n medru'r Gymraeg nag y mae'r brifysgol feddygol yng Nghaerdydd. Nododd yr Aelod Cynulliad a'r meddyg, Dr Dai Lloyd, pan fo claf yn disgrifio ei symptomau yn ei famiaith, gall meddygon wneud diagnosis yn gynt gan ddod i ganlyniad mwy pendant, gan nad oes problemau o ran cyfathrebu.

Ychwanegodd Manon Elin:
"Rydyn ni'n ymwybodol fod y gwasanaeth iechyd dan straen. Roedd profiadau'r rhai sydd wedi neu yn gweithio yn y maes yn cadarnhau nad yw dysgu neu gynyddu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn gallu cael blaenoriaeth ynghanol gwaith bob dydd. Dyna pam mae hyfforddiant gweithwyr iechyd mor bwysig. Mae cyfle i'r Bwrdd Iechyd gyd-weithio gyda darparwyr iechyd fel bod modd gwneud cyrsiau meddygol yn Gymraeg a bod y Gymraeg yn rhan o gwrs pawb sy'n hyfforddi i weithio yng Nghymru. Bydd hynny'n creu sylfaen ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymraeg y dyfodol."

Mwy o luniau'r digwyddiad: http://cymdeithas.cymru/lluniau/tynged-yr-iaith-sir-g-r-iechyd-gofal-yn-gymraeg

Y stori yn y wasg

Golwg 360 30/4/17