Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf (3 Rhagfyr) i adalw’r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir.
Y pedair ysgol dan fygythiad yw Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Syr John Rhys, ac Ysgol Llanfihangel y Creuddyn.
Pe bai’r cynnig yn pasio, byddai’r ymgynghoriad yn cael ei drin fel “cyfnod ymgynghori anffurfiol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth.”
Mae’r papur cynnig yn nodi “ar 19 Tachwedd 2024, derbyniodd yr Awdurdod sialens ffurfiol ynghylch y penderfyniad a wnaed ar 3/9/2024 i gynnal ymgynghoriad statudol gyda’r 31/8/24 fel dyddiad cau arfaethedig, a ystyriwyd nad oedd yn ymarferol, ac felly bod angen ailystyried y penderfyniad a wnaed ar y dyddiad hwnnw.”
Nid yw'n glir pa sialens yn union ar 19 Tachwedd sydd wedi arwain at y cyngor i ailystyried y sefyllfa.
Wrth ymateb, dywedodd Ffred Ffransis, o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu'r cynnig sydd gerbron cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf i ddechrau gwrando ar y cymunedau cyn gwneud penderfyniadau ar eu dyfodol ar eu rhan. Dyma'n union yr oedd ei angen o'r cychwyn, sef ceisio barn yr ysgolion a'r cymunedau yn gyntaf, cynnal trafodaeth agored, ac wedyn ceisio'r ffordd ymlaen.
“Rydym yn diolch i’r llywodraethwyr a rhieni'r pedair ysgol am eu safiad dros ddyfodol eu plant a'u cymunedau. Maent yn ysbrydoliaeth i gymunedau ar draws Cymru ac yn esiampl wych i'r plant”