Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007

Gigs Steddfod yr WyddgrugRadio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a’r Band, Brigyn…. Dim ond rai o’r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni. Bydd ‘Adloniant Tafod’ yn cael ei gynnal eleni ar dir Clwb Rygbi'r Wyddgrug sydd wedi ei leoli yng nghanol tref prifwyl 2007.

flyer-gigs-steddfod.jpgTOCYNNAUMae Tocynnau Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awr ar werth. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.GWERSYLLA + BWYDBydd y Gymdeithas hefyd, mewn cydweithrediad a’r Clwb Rygbi, yn trefnu maes pebyll ar y safle er mwyn rhoi dewis amgen i’r Eisteddfodwyr hynny sydd am brofi bywyd cymdeithasol tref Yr Wyddgrug yn ogystal ag ymweld â’r Eisteddfod ei hun. Bydd y rhai sy'n gwersylla yn gallu defnyddio cawodydd poeth ystafelloedd newid y Clwb Rygbi, a thoiledau glan. Bydd y Clwb ar agor drwy’r dydd ac yn darparu bwyd gyda’r nos.GWYL GRUGUn o’r prif atyniadau eleni fydd ‘Gŵyl Grug’, gyda bandiau yn chwarae drwy’r dydd o hanner dydd ymlaen ar y Sadwrn ola gyda Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo a Radio Luxembourg - brenhinoedd digymar y sin roc Gymraeg bresennol - yn uchafbwynt i’r diwrnod ac i’r wythnos. Mae’r Gymdeithas hefyd yn falch tu hwnt y bydd digwyddiadau eleni, fel sydd yn arferol, yn rhoi llwyfan i fandiau lleol a’r bandiau ifanc sydd yn ddyfodol y sin.AMSERLENSadwrn 4ydd - 8pm > 1amHuw ChiswellElin FflurLabrinthMonte CassinoDJ Ian Cottrell - £8Llun 6ed - 8pm > 1amSteve Eaves a’r BandBrigynGwyneth GlynRyan Kift - £7Mawrth 7fed - 7pm > 11pmMeic StevensY FfyrcJen JeniroIan RushDJ Huw Stephens - £8Mercher 8fed - 8pm > 1amGai TomsCowbois Rhos BotwnnogGwibdaith Hen FranPwsi Meri Mew - £7Iau 9fed - 8pm > 1amGenod DroogSibrydionY ReiMr HuwDJ Fuzzy Felt / Huw Evans - £7Nos Wener 10fed - 8pm > 1amBob Delyn a’r EbillionFflur Dafydd a’r BarfDan Lloyd a Mr PincYucatan - £7Sadwrn 11eg - Gŵyl Grug: 12.00yh - 1.00ybRadio Luxembourg, Derwyddon Dr Gonzo, Mattoidz, Plant Duw, Cofi Bach a Tew Shady, Calansho, Stilletoes, Y Gwyddel, Coda, Yr Ods, Endaf Presley, DJ Steffan Cravos, DJ Dyl Bili, Brwydr y Bandiau a llawer iawn mwy! - £10MEDDAI STEFFAN CRAVOS:"Mae’n mynd i fod yn wythnos gyffrous tu hwnt, gyda bandiau gorau Cymru ar y llwyfan bob noson o’r wythnos. A gyda maes pebyll ar y safle hefyd, does dim amheuaeth mai Clwb Rygbi’r Wyddgrug fydd y lle i fod yn ystod wythnos gyntaf Awst eleni. Gyda’r lleoliad o yng nghanol y dref gyda chysylltiadau hawdd i feysydd yr Eisteddfod, a’r line-ups cryfaf ers blynyddoedd, mae’n argoeli i fod yn wythnos a hanner! Byddai’n rhaid i chi fod yn lembo go iawn i’w methu!"NEWID AMSERposter-diwygiedig-gigmeic.jpg1baner-gigs-steddfod07.jpg