Cymdeithas ar y ffordd yn y frwydr dros Ysgolion Gwynedd

Ysgol MynyddcerrigBydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwthio Blwch Postio mawr 75 milltir ar draws sir Gwynedd fel rhan o’r frwydr dros ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Yn ystod y Daith Gerdded hon (wythnos hanner tymor) byddant yn ymweld ag ysgolion y mae Cyngor Gwynedd yn bygwth eu cau yn eu Cynllun Ad-drefnu gan annog trigolion lleol i bostio cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’r Cynllun. Ar hyd y ffordd cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus a chyngherddau.

Pwyswch yma am fanylion llawn y daith (pdf)Meddai trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd, Osian Jones sy’n un o’r rhai sy’n bwriadu cerdded yr holl ffordd:"Mae’r Cyngor wedi gwahodd ymatebion i’w Cynllun Ad-drefnu ysgolion. Rydyn ni’n eu cymryd nhw ar eu gair ac yn ffyddiog o gasglu cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’w Cynllun. Byddwn yn cludo’r Blwch Postio llawn at swyddfeydd y Cyngor yn bersonol ar ddiwedd y Daith."Ychwanegodd:"Byddwn yn cychwyn y Daith Gerdded wrth Ysgol Parc ym Mhenllyn bnawn Llun yr 11eg o’r mis nesaf gan gyrraedd swyddfeydd y Cyngor am 1pm ar y Dydd Gwener. Mae’n arbennig o annheg fod y Cyngor yn rhuthro i benderfynu’n derfynol ar dynged Parc a 6 ysgol arall rhwng Mai a Gorffennaf eleni cyn eu bod nhw hyd yn oed wedi ystyried yr ymatebion i’w strategaeth sirol. Galwn ar bawb i gefnogi’r ysgolion hyn sy’n wynebu’r bygythiad cyntaf. Mae eu brwydr nhw yn frwydr dros bawb."

Stori yn y Daily Post