Cymdeithas yn cefnogi Ysgol Llanarthne

Cadwn Ein Hysgolion.JPGFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll o flaen adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin bore fory (Llun 10/12)am 9.30am i ddangos eu cefnogaeth i frwydr cymuned Llanarthne dros gadw eu hysgol.Unwaith eto mae'r Cyngor Sir wedi dangos eu hawydd i wthio eu hagenda drwodd mor gyflym a phosibl heb ystyried barn nac anghenion y gymuned. Mae'r rhieni a llywodraethwyr wedi gofyn am fis ychwanegol er mwyn trafod gyda ysgolion cyfagos y posibiliad o gydweithio mewn ffederasiwn. Gwrthodwyd hyn gan y Cyngor Sir gan lynu yn haeaernaidd at y 4 wythnos yn unig a ganiatawyd i'r gymuned.