Cymdeithas yn cyfarfod gyda Carwyn Jones

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad mewn hysbysebion papurau newydd heddiw, wrth i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gwrdd â’r Prif Weinidog.

Wrth ddatgan bod pobl ‘eisiau byw yn Gymraeg’, dywed yr hysbyseb, a ymddangosodd yn y Western Mail, y Daily Post a Golwg 360 heddiw, bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar y polisiau ym maniffesto byw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Daw’r hysbyseb heddiw wedi i filoedd o bobl gymryd rhan yn “Ralïau’r Cyfrif” a drefnwyd gan y Gymdeithas ledled Cymru yn ystod y misoedd diwethaf.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae angen i Carwyn Jones lunio polisiau newydd ar sail eu ‘maniffesto byw’ a’u gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn. Yn ei ‘Maniffesto Byw’, mae’r Gymdeithas wedi amlinellu 26 argymhelliad er mwyn cryfhau’r iaith megis trawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo her allfudo a mewnfudo; system addysg lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg; pedryblu buddsoddiad yn yr iaith; a mesur ôl-troed ieithyddol holl wariant y Llywodraeth.

Cyn y cyfarfod gyda Carwyn Jones AC heddiw, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a oedd yn rhan o'r ddirprwyiaeth:

“Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd y Prif Weinidog yn ymateb yn gadarnhaol i’r syniadau sydd gennym i gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg a’i chymunedau. Byddwn ni’n galw arno i gydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg a gweithredu ar yr argymhellion yn ein maniffesto byw. Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Ni all y Gymraeg a’i chymunedau fforddio mwy o’r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach."

“Yn ein maniffesto byw, rydyn ni’n amlinellu sawl cam cwbl ymarferol y gallai - ac y dylai - Llywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd eleni i gryfhau sefyllfa’r iaith. Ein gweledigaeth yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; a sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno. Yr hyn sydd ei eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad.”

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Robin Farrar:

"Cawsom ni gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones y bore ma, ac yn falch ei fod wedi cydnabod bod angen gweithredu ar frys yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad. Mae o wedi cytuno i ymateb yn llawn i'r 26 argymhelliad yn ein maniffesto byw erbyn y 6ed o Fehefin ac wedi cytuno i gwrdd â ni eto yn y dyfodol agos.

"Mae'n gadarnhaol iawn ei fod wedi cytuno i gynnal asesiad annibynnol a fydd yn mesur ôl-troed ieithyddol, sef effaith iaith, holl wariant y Llywodraeth ar draws pob maes. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol a phwysig. Fodd bynnag, roedden ni'n siomedig nad oedd y Prif Weinidog yn gallu cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r safonau iaith a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn dilyn ei hymgynghoriad trwyadl iawn."

Mewn llythyr at yr ymgyrchwyr, cyn y cyfarfod ysgrifennodd y Prif Weinidog:

“Beth sy’n glir wrth edrych ar ganlyniadau’r Cyfrifiad yw fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru.”

Maniffesto Byw: cymdeithas.org/maniffestobyw