Cymdeithas yn cyhuddo'r cyngor o dorri corneli

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.

Mae'r Gymdeithas yn gofyn hefyd yn y llythyr pam fod y cyngor wedi cymryd y cam difrifol hwn dim ond ychydig wythnosau cyn bod dau adroddiad pwysig yn dod allan o'r Cynulliad ar ddyfodol ysgolion pentref.